Adeiladwaith ar ei Orau – Dathlu Dwyieithrwydd yn y Diwydiant Adeiladu yn Eisteddfod yr Urdd 2025
Mae Cymwysterau Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Coleg Gŵyr Abertawe a’r Grŵp Colegau NPTC yn cynnal digwyddiad ’Adeiladwaith ar ei Orau’ yn ystod Eisteddfod yr Urdd 2025. Bydd y drafodaeth sector yn digwydd am 1100 ar 29 Mai ym Mharc Margam.
Bydd y sesiwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd hyrwyddo’r Gymraeg yn y sector adeiladu, gan ddangos sut mae dwyieithrwydd nid yn unig yn cefnogi cyfathrebu effeithiol, ond hefyd yn ehangu cyfleoedd i weithwyr a phrentisiaid ledled Cymru. Bydd hefyd yn dangos be all gymwysterau gynnig yn ogystal a buddion astudio tuag at cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y digwyddiad yn gyfle i arddangos cydweithio llwyddiannus rhwng sefydliadau addysg a chyrff proffesiynol.
Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen ehangach Eisteddfod yr Urdd 2025, sef un o’r gwyliau ieuenctid mwyaf yn Ewrop, sy’n dathlu creadigrwydd, diwylliant a’r Gymraeg mewn ffordd bywiog a chroesawgar.
Dywedodd Ashok Ahir, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cymwysterau Cymru:
"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y drafodaeth ac at gadeirio’r sesiwn hon. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod gan bobl ifanc yng Nghymru fynediad at gymwysterau a hyfforddiant sy’n adlewyrchu anghenion y sector ac yn cefnogi’r Gymraeg.”
Mae croeso cynnes i bobl ymuno â ni ar gyfer sesiwn ysbrydoledig sy’n rhoi llwyfan i’r Gymraeg yn y gweithle ac yn arddangos y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc Cymru yn y maes adeiladu.
Bydd y digwyddiad ar stondin Coleg Gŵyr Abertawe, 1100-1200. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.