Adnoddau dysgu newydd ar gyfer TAG Technoleg Ddigidol
Er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi gyda mynediad i adnoddau o ansawdd uchel ar gyfer eu hastudiaethau mewn TAG UG/Safon Uwch Technoleg Ddigidol, mae adnoddau newydd bellach ar gael.
Dechreuodd dysgwyr astudio TAG Technoleg Ddigidol CBAC am y tro cyntaf eleni. Mae'r cymhwyster cyffrous hwn, a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru, yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth ddofn am ddatblygiadau arloesol ym maes technoleg ddigidol a sut maen nhw’n effeithio ar fywydau'r rhai sy'n eu defnyddio. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu ystod o sgiliau ymarferol i greu cynhyrchion digidol, yn ogystal ag atebion i broblemau sy'n wynebu defnyddwyr systemau digidol.
Mae Cymwysterau Cymru wedi rhoi cymorth i CBAC i alluogi’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu newydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar gyfer unedau arholi o fewn TAG Technoleg Ddigidol. Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd CBAC adnoddau ‘dysgu cyfunol’ a ‘threfnydd gwybodaeth’ ar gyfer UG Uned 1 – Arloesi ym maes Technoleg Ddigidol, gan gefnogi dysgwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer eu harholiad cyntaf yn y pwnc hwn.
Rydym bellach yn falch o gadarnhau bod CBAC wedi cwblhau ei waith o ddatblygu'r adnoddau hyn ar gyfer Safon Uwch Uned 3 – Systemau Cysylltiedig. Mae modd cael gafael ar yr adnoddau ar gyfer y ddwy uned ar dudalen pwnc gwefan Adnoddau CBAC.
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch hefyd weld y fanyleb, y deunyddiau asesu enghreifftiol a'r adnoddau hyfforddi ar gyfer y cymhwyster hwn ar dudalen pwnc CBAC.