NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

15.12.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR
RHANDDEILIAID
CYRFF DYFARNU

Adolygiad o ganlyniadau hwyr ar gyfer cymwysterau galwedigaethol yn haf 2022

Rydym wedi ein sicrhau y bydd y gwaith a wnaed gan Ofqual, OCR a Pearson yn arwain at welliannau ar gyfer haf 2023.

Heddiw, mae Ofqual wedi cyhoeddi cynllun gweithredu fel rhan o'i adolygiad cyfredol o gyhoeddi canlyniadau hwyr ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol OCR a Pearson yn ystod haf 2022. Nod y cynllun gweithredu yw atal y canlyniadau gohiriedig rhag digwydd eto yn ystod haf 2023. Gellir cael manylion ar wefan Ofqual.

Mae Ofqual yn parhau â’i adolygiad o ddigwyddiadau’r haf diwethaf a bydd yn cyhoeddi adroddiad llawnach yn y flwyddyn newydd. Bydd Ofqual yn ymgynghori ar rai o'i gamau gweithredu arfaethedig yn gynnar yn 2023. Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad pan fydd yn cael ei lansio.

Mae OCR a Pearson wedi cyhoeddi eu hadolygiadau mewnol eu hunain o haf 2022 heddiw sy’n cynnwys argymhellion ar welliannau ar gyfer cyfresi arholiadau yn y dyfodol.

Rydym wedi ein sicrhau y bydd y gwaith a wnaed gan Ofqual, OCR a Pearson yn arwain at welliannau ar gyfer haf 2023. Rydym hefyd yn falch o weld bod yr adolygiadau wedi dod i gasgliadau tebyg ar y materion a ddigwyddodd yr haf diwethaf a’r camau y mae angen eu cymryd i atal rhag digwydd eto. Mae'n flaenoriaeth cyhoeddi canlyniadau ar amser, er mwyn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i gam nesaf eu dysgu neu i gyflogaeth.