NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

04.07.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Adolygiad yn nodi bod angen diweddaru cymwysterau mewn sectorau penodol

Bydd rhai cymwysterau busnes, gweinyddu, adwerthu, y gyfraith a chyfrifyddu yn cael eu diweddaru yn dilyn adolygiad gan Cymwysterau Cymru, a hynny er mwyn mynd i'r afael ag adborth a dderbyniwyd am gynnwys sydd wedi dyddio. Bydd newidiadau hefyd i gefnogi cynnydd yn argaeledd cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyhoeddwyd adroddiad ar wefan Cymwysterau Cymru heddiw a oedd yn amlinellu'r canfyddiadau a'r camau a gymerwyd.  

Bu’r adolygiad sector yn ystyried pa mor addas yw’r amrywiaeth o gymwysterau sydd ar gael yn y sector ar gyfer bodloni anghenion dysgwyr, darparwyr dysgu a chyflogwyr. Bu Cymwysterau Cymru hefyd yn ymchwilio i weld a yw argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg o fewn y sector yn ddigonol. 

Canfu'r adolygiad mai’r farn gyffredinol oedd bod yr amrywiaeth bresennol o gymwysterau yn y sectorau busnes, gweinyddu, adwerthu, y gyfraith a chyfrifyddu yn ddigon i fodloni anghenion dysgwyr, ysgolion, colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Fodd bynnag, mynegodd cyflogwyr eu bod yn awyddus i gael fframweithiau prentisiaethau ychwanegol ar gyfer cyfreithwyr a rheolwyr adnoddau dynol.  

Roedd yr adolygiad hefyd wedi nodi bod angen i ragor o gymwysterau fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod cynnwys rhai cymwysterau penodol angen cael ei symleiddio a’i foderneiddio.  

Rhannwyd y canfyddiadau gyda'r cyrff dyfarnu a rhanddeiliaid eraill, ac mae Cymwysterau Cymru wedi cymryd y camau canlynol: 

  • codwyd adborth ar gynnwys sydd wedi dyddio gyda'r cyrff dyfarnu perthnasol 
  • mae dau gorff dyfarnu wedi sicrhau eu bod eisoes wedi mynd i'r afael â'r materion a nodwyd gan yr adolygiad, ac mae eraill wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu mynd i'r afael â nhw yn y dyfodol agos.  
  • rhannwyd canfyddiadau â Llywodraeth Cymru y byddai rhai cyflogwyr yn gwerthfawrogi fframwaith prentisiaeth ar gyfer cyfreithwyr yng Nghymru - mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o hyn ac ar hyn o bryd mae'n asesu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd fframwaith prentisiaeth addas i gyfreithwyr i gefnogi'r sector cyfreithiol
  • bydd Cymwysterau Cymru yn parhau i ddarparu cyllid grant ac yn ceisio targedu hyn ar faterion a ganfuwyd yn yr adolygiad, er mwyn cynyddu nifer y cymwysterau cyfrwng Cymraeg yn y sector hwn

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, "Mae sectorau busnes, gweinyddu, adwerthu, y gyfraith a chyfrifyddu yn cyflogi nifer sylweddol o bobl ledled Cymru, ac mae'n bwysig bod y cymwysterau hyn yn cynnig gwybodaeth gyfredol a’r sgiliau y mae cyflogwyr eu hangen.  

“Drwy ein hadolygiad sector rydyn ni wedi gweithio gyda chyrff dyfarnu a rhanddeiliaid eraill yn y sector er mwyn mynd i'r afael â'r materion a nodwyd gennym, ac er mwyn sicrhau bod mwy o gymwysterau busnes, gweinyddu, adwerthu, y gyfraith a chyfrifyddu ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg." 

"Byddwn yn parhau i weithio gyda chyrff dyfarnu a rhanddeiliaid er mwyn mynd i'r afael â holl ganfyddiadau'r adolygiad." 

Mae'r adroddiad yn adlewyrchu 57 o gyfweliadau manwl gyda rhanddeiliaid yn ogystal â chyfraniadau 332 o ddysgwyr i arolwg ar-lein. Mae'r dystiolaeth a gafwyd o’r holl fewnbwn wedi’i defnyddio i lywio'r canfyddiadau a gyflwynir gan yr adroddiad.   

Roedd y camau eraill a gymerwyd yn ymwneud â'r amrywiaeth gyffredinol o gymwysterau, cynnwys y cymwysterau a pha mor gyfredol ydyn nhw, a’r dulliau asesu.  

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.