Adolygu cymwysterau Safon Uwch ac UG cymeradwy yng Nghymru
Yn sgil cyflwyno’r Cymwysterau Cenedlaethol 14–16, rydym wedi amlinellu ein dull o adolygu’r cymwysterau Safon Uwch ac UG presennol.
Cefndir
Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddwyd meini prawf cymeradwyo ar gyfer TGAU a chymwysterau Lefel 2 cysylltiedig y gyfres newydd o Gymwysterau Cenedlaethol 14–16, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi Cwricwlwm i Gymru 3–16.
Bydd y rhan fwyaf o'r cymwysterau hyn yn cael eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025 (rhain yw cymwysterau Ton 1). Mae CBAC bellach wedi cyhoeddi manylebau ar gyfer y pynciau hyn.
Bydd rhagor o gymwysterau yn dilyn ym mis Medi 2026 (rhain fydd cymwysterau Ton 2). Bydd manylion y rhain ar gael ym mis Medi 2025. Mae rhagor o wybodaeth am ba bynciau fydd ar gael bob blwyddyn i’w gael ar ein tudalen TGAU.
Bydd y dysgwyr sy'n astudio'r cymwysterau newydd hyn yn cael cyfle i fynd ymlaen i wneud cyrsiau Safon Uwch ac UG ym mis Medi 2027 (Ton 1) a Medi 2028 (Ton 2).
Rydym nawr yn gofyn i CBAC gynnal adolygiad wedi'i dargedu o’r cymwysterau Safon Uwch ac UG cymeradwy yng Nghymru er mwyn nodi unrhyw fylchau perthnasol neu anghysondebau gyda'r TGAU newydd a'r cymwysterau cysylltiedig. Lle bo'n briodol, bydd CBAC yn diwygio'r cymwysterau Safon Uwch ac UG presennol.
Gan fod y Cymwysterau Cenedlaethol hyn wedi'u dylunio'n ofalus i gefnogi dilyniant i'r ystod bresennol o gymwysterau Safon Uwch ac UG cymeradwy, nid ydym yn rhagweld y bydd angen gwneud newidiadau sylweddol i’r rhan fwyaf o bynciau.
O ystyried bod y gyfres bresennol o gymwysterau Safon Uwch ac UG wedi cael eu cymeradwyo a'u cyflwyno ers rhai blynyddoedd bellach (cymeradwywyd y mwyafrif ohonynt i gael eu haddysgu gyntaf rhwng 2015 a 2017), dyma gyfle da i CBAC ystyried a oes agweddau ar y cymwysterau hyn y dylid eu diweddaru er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben.
Rydym ni o’r farn bod y dull hwn o gynnal adolygiadau wedi’u targedu o’r cymwysterau Safon Uwch ac UG yn fwy addas na rhaglen ddiwygio fwy helaeth ar hyn o bryd. Bydd yn sicrhau bod yr adolygiadau’n hwylus i athrawon, i ganolfannau, ac i CBAC mewn cyfnod o baratoi ac o reoli cyflwyniad y Cymwysterau Cenedlaethol.
Yr ystod o gymwysterau Safon Uwch ac UG cymeradwy yng Nghymru o fis Medi 2027
O ystyried bod yr ystod bresennol o lefelau UG a Safon Uwch yn darparu dilyniant o’r Cymwysterau Cenedlaethol yn fras, ac nad oes unrhyw fylchau wedi’u nodi i ni, rydym o’r farn y dylai’r ystod bresennol barhau.Gan fod CBAC yn darparu’r UG a Safon Uwch gwneud-i-Gymru ar hyn o bryd, rydym wedi gofyn iddynt gadarnhau pa gymwysterau Safon Uwch ac UG maen nhw’n bwriadu parhau i’w cynnig o fis Medi 2027 ymlaen (pan fydd y cyfnod cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau Safon Uwch ac UG presennol yn dod i ben).
Os yw CBAC yn bwriadu newid eu cynnig presennol o Safon Uwch ac UG, byddwn yn gofyn iddynt gyflwyno rhesymeg glir dros unrhyw benderfyniadau. Yna byddwn yn adolygu'r cyflwyniad ac yn ystyried effaith debygol unrhyw newidiadau posibl i'r cynnig presennol, cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen.
Er mai CBAC yw'r unig ddarparwr UG a Safon Uwch cymeradwy yng Nghymru ar hyn o bryd, gall unrhyw gorff dyfarnu a reoleiddir gyflwyno cymwysterau i'w cymeradwyo, ar yr amod ei fod yn bodloni'r gofynion rheoleiddio ar gyfer TAG UG a Safon Uwch.
Ein gweledigaeth ar gyfer Safon Uwch ac UG yng Nghymru
Er mwyn sicrhau bod y gyfres o gymwysterau Safon Uwch ac UG cymeradwy yn gydlynol, ac yn barhad priodol o’r cymwysterau TGAU cymeradwy a’r cymwysterau cysylltiedig, rydym eisiau i bob cymhwyster Safon Uwch ac UG cymeradwy baratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd, astudiaeth bellach, a gwaith. Rydym eisiau’r cymwysterau Safon Uwch ac UG hyn fod ar gael yn ddwyieithog, ac y byddant:
- yn ennyn hyder y cyhoedd yng Nghymru, yn y DU, ac yn fyd-eang
- yn cefnogi dilyniant i addysg uwch yn yr un pynciau neu mewn pynciau cysylltiedig
- lle bo'n berthnasol, yn adeiladu ar yr wybodaeth, y sgiliau, a'r ddealltwriaeth a bennir yn y TGAU cymeradwy perthnasol
- â chynnwys sy'n gyfoes ac sy'n adlewyrchu safbwyntiau, cyfraniadau, a phrofiadau ystod amrywiol o gymunedau
- yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ymwneud â chyd-destunau lleol, cenedlaethol, a rhyngwladol, lle bo hynny'n briodol
- yn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng hydrinedd, lefel o ymgysylltiad, dibynadwyedd a dilysrwydd
- yn gwneud defnydd priodol o dechnoleg
Bydd elfennau allweddol y weledigaeth hon yn cael eu cynnwys ym meini prawf cymeradwyo’r cymwysterau TAG Safon Uwch ac UG (y gofynion y mae’n rhaid i gyrff dyfarnu eu bodloni cyn y gallwn gymeradwyo cymhwyster), yn ogystal ag yn y dogfennau rheoleiddio eraill perthnasol. Rydym yn disgwyl cyhoeddi'r meini prawf cymeradwyo diwygiedig yng ngwanwyn 2025.
Adolygiad wedi'i dargedu o gymwysterau Safon Uwch ac UG cymeradwy
Bydd CBAC yn cynnal adolygiad wedi'i dargedu o'r cymwysterau Safon Uwch ac UG maen nhw’n bwriadu parhau i'w cynnig o fis Medi 2027 ymlaen. Ni fydd yr adolygiad hwn yn cynnwys y cymwysterau Safon Uwch ac UG Cymraeg, sy'n dwyn y teitl Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Cymraeg Ail Iaith, gan y bydd dull gwahanol yn cael ei ddefnyddio i adolygu'r cymwysterau hyn er mwyn cyd-fynd â'r cyd-destun polisi ehangach sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
Bydd adolygiad CBAC yn canolbwyntio ar sicrhau bod eu cymwysterau Safon Uwch ac UG yn cyd-fynd â'r meini prawf cymeradwyo ar gyfer TAG Safon Uwch ac UG. Fel y nodwyd uchod, bydd hyn yn cynnwys ystyried a oes angen diwygio cymwysterau Safon Uwch ac UG o ganlyniad i’r newidiadau a wneir i’r TGAU.
Yn dilyn eu hadolygiad, bydd CBAC yn diwygio'r cymwysterau yn ôl yr angen. Mae angen datblygu a mireinio’r broses ar gyfer cymeradwyo'r gwelliannau hyn, ond bydd yn cynnwys gofyniad bod CBAC yn cyflwyno dogfen resymeg sy'n manylu ar sut mae eu cymwysterau Safon Uwch ac UG yn bodloni’r meini prawf cymeradwyo ac unrhyw newidiadau y bydd arnynt eu hangen i sicrhau cydymffurfiaeth, yn ogystal ag eglurhad o newidiadau eraill y maen nhw’n bwriadu eu gwneud. Mewn pynciau lle mae angen newidiadau, bydd CBAC yn cyflwyno'r manylebau diwygiedig a'r deunyddiau asesu enghreifftiol i ni i'w cymeradwyo.
Cymwysterau Safon Uwch ac UG Cymraeg
Wrth ystyried ein dull o adolygu cymwysterau Safon Uwch ac UG, roedd yn amlwg y byddai angen defnyddio dull gwahanol gyda’r cymwysterau Safon Uwch ac UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Chymraeg Ail Iaith. Mae hyn oherwydd yr amcanion polisi ehangach sy’n bodoli ar gyfer y Gymraeg a'r datblygiadau yn sgil cyhoeddiad Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn ddiweddar.
Rydym eisiau sicrhau bod y cymwysterau sy’n cael eu dilyn gan ddysgwyr yn y dyfodol yn cyd-fynd ag amcanion polisi ac yn cefnogi dysgwyr i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyfraniad addysg ôl-orfodol, gan gynnwys Safon Uwch ac UG, at y nodau hyn.
Am y rhesymau hyn, rydym wedi ymrwymo i gynnal adolygiad mwy cynhwysfawr o gymwysterau Safon Uwch ac UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Chymraeg Ail Iaith, gyda'r bwriad o wneud diwygiadau cyn i’r cymwysterau newydd ddechrau cael eu haddysgu ym mis Medi 2027. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y cymwysterau Safon Uwch ac UG newydd ar gael i’r garfan gyntaf o ddysgwyr sydd wedi astudio'r Cymwysterau Cenedlaethol newydd mewn TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a’r rhai a astudiodd TGAU Cymraeg Craidd (gyda'r opsiwn o astudio Cymraeg Craidd Ychwanegol Lefel 2 hefyd) mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Er mwyn cyrraedd y nodau hyn, ar hyn o bryd rydym yn ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid, gyda'r bwriad o ymgynghori ar y gofynion dylunio arfaethedig ac o gymeradwyo cymwysterau newydd erbyn mis Medi 2026. Bydd hyn yn golygu y bydd y manylebau newydd ar gael flwyddyn cyn i’r cymwysterau gael eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027. Trwy gydol y broses hon, byddwn yn gweithio'n agos gyda CBAC a phartneriaid allweddol eraill sy’n rhan o addysg Gymraeg.
Y camau nesaf
Bydd CBAC yn dechrau gweithio ar yr adolygiad yn 2025. Os oes angen newid cymwysterau Safon Uwch ac UG i gydymffurfio â’r cymwysterau TGAU Ton 1, bydd manylebau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi erbyn Medi 2026, flwyddyn cyn iddynt gael eu haddysgu gyntaf ym Medi 2027. Os oes angen newid cymwysterau Safon Uwch ac UG i gydymffurfio â’r cymwysterau TGAU Ton 2, bydd manylebau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi erbyn Medi 2027, flwyddyn cyn iddynt gael eu haddysgu gyntaf ym Medi 2028.
Gydag ambell i gymhwyster Safon Uwch ac UG cymeradwy, nid oes cymhwyster TGAU yn y gyfres Cymwysterau Cenedlaethol newydd sy’n uniongyrchol berthnasol, megis Y Gyfraith a Seicoleg er enghraifft. Rydym yn rhagweld y bydd y cymwysterau hyn yn cael eu hadolygu fel rhan o drydedd don o adolygiadau, a bydd unrhyw fanylebau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi 2028, cyn i’r cymwysterau gael eu haddysgu gyntaf ym mis Medi 2029.
Fel y nodwyd uchod, ar hyn o bryd nid ydym yn rhagweld angen am unrhyw newidiadau sylweddol i’r cymwysterau Safon Uwch ac UG presennol, ac eithrio'r rhai Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Chymraeg Ail Iaith, ond byddwn yn parhau i weithio gyda CBAC i ddeall natur debygol y diwygiadau i'r manylebau er mwyn cefnogi gweithgareddau rheoli newid priodol.