Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru 2022-23
Edrych yn ôl ar y flwyddyn academaidd ddiwethaf, eu cyflawniadau a'u gweithgareddau.
Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio eu hadroddiad blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23.
Nhw yw'r rheolydd annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt ar lefel gradd sy'n cael eu cynnig gan gyrff dyfarnu sy’n cael eu cydnabod yng Nghymru. Mae dysgwyr wrth wraidd yr hyn maent yn ei wneud, ac maent am iddynt fod yn hyderus bod eu cymwysterau yn gofnod teg, dibynadwy, gwerthfawr, trosglwyddadwy o’u gwybodaeth a’u medrau.
Mae'r adroddiad yma yn rhoi amlinelliad o ddarpariaeth a datblygiadau dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Cymwysterau Cymru wedi gweithio ar waith rheoleiddio blaenoriaethol a diwygiadau, gan edrych ymlaen ymhellach i sicrhau eu bod yn parhau i gyflawni eu prif nodau ar gyfer dysgwyr y dyfodol.
Mae rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn o fewn yr adroddiad blynyddol yn cynnwys:
- sut maent wedi goruchwylio’r camau nesaf wrth ddychwelyd i drefniadau asesu cyn-bandemig
- cyfres arholiadau lwyddiannus ar gyfer haf 2023
- datblygu cymwysterau newydd sy'n cyd-fynd â chyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru
- ymgynghori ar a chyhoeddi gofynion dylunio ar gyfer cyfres o 26 TGAU newydd
- cyhoeddi ein blaenoriaethau strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf
- eu cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth cyntaf
- mabwysiadu darpariaethau llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn wirfoddol
- eu cynigion diwygiedig ar gyfer cymwysterau newydd yn y Gymraeg i bobl ifanc 14–16 oed, gan gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru
- sut maent wedi ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau yn y sector ôl-16, gan gynnwys adolygiadau sector
Dywedodd Cadeirydd Cymwysterau Cymru, David Jones OBE DL:
“Rhaid i ni longyfarch pob un dysgwr sydd wedi llwyddo er gwaethaf yr heriau a wynebwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Yn bersonol, hoffwn ddiolch i’r holl athrawon, darlithwyr, staff hyfforddi, rhieni a gofalwyr am gefnogi ein dysgwyr. Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn, hoffwn hefyd ddiolch i’n partneriaid eraill, am eu gwaith caled, eu cydweithrediad a’u hyblygrwydd, gan ein bod wedi dychwelyd at drefniadau asesu mwy arferol.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker:
“Drwy gydol y flwyddyn hon mae Cymwysterau Cymru wedi parhau i chwarae rhan allweddol yn y system addysg – gan weithio gydag eraill i gynllunio cymwysterau sy’n addas ar gyfer y dyfodol a diogelu dysgwyr drwy oruchwylio’r broses o ddyfarnu cymwysterau gwerthfawr y gellir ymddiried ynddynt. Mae’n bleser gennym rannu ein gweithgareddau a’n cyflawniadau trwy ein hadroddiad blynyddol. Edrychwn ymlaen hefyd at flwyddyn arall o roi ein dysgwyr wrth galon popeth a wnawn.”
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr adroddiad blynyddol llawn