NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

19.08.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Ailbenodiadau Bwrdd Cymwysterau Cymru

Rydym yn falch o gyhoeddi'r ailbenodiadau diweddar sydd wedi eu cymeradwyo gan weinidogion Llywodraeth Cymru i fwrdd Cymwysterau Cymru:

Mae Hannah Rowan wedi cael ei hailbenodi am ail dymor, a fydd yn dod i ben ym mis Mawrth 2027.
Mae Mike Griffiths wedi cael ei ailbenodi am ail dymor, a fydd yn dod i ben ym mis Medi 2025.
Mae Douglas Blackstock wedi cael ei ailbenodi am ail dymor, a fydd yn dod i ben ym mis Mehefin 2027.
Mae Graham Hudson wedi cael ei ailbenodi am ail dymor, a fydd yn dod i ben ym mis Mawrth 2027.
(Cyhoeddwyd: 19.08.24)

Mae Julie Brannan wedi’i hailbenodi, a fydd yn dod i ben ym mis Medi 2027.
(Cyhoeddwyd: 05.09.24)


Hannah Rowan, Mike Griffiths, Graham Hudson, Julie Brannan a Douglas Blackstock

Mae eu hailbenodiadau’n adlewyrchu ein hyder yn eu gallu a'n hymrwymiad i gynnal bwrdd cryf ac effeithiol. Rydym yn edrych ymlaen at eu cyfraniadau a'u harweinyddiaeth barhaus.