NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

16.03.26

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Amrywio'r Penderfyniad i Gyfyngu ar Gymwysterau Blaenoriaethol

Yn dilyn cynnig a wnaethom yn 2025, rydyn ni'n amrywio'r Penderfyniad i Gyfyngu presennol ar gymwysterau blaenoriaethol ym Maes Pwnc Is-sector 5.2 (“Adeiladu ac adeiladwaith”)

Ym mis Tachwedd 2025, fe wnaethon ni gysylltu â'r holl gyrff dyfarnu rheoleiddiedig yng Nghymru, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill a allai fod â diddordeb rhesymol, i gynnig Amrywiad i'r Penderfyniad i Gyfyngu sy'n berthnasol i gymwysterau blaenoriaethol ym maes pwnc is-sector 5.2. Cynigwyd yr amrywiad hwn er mwyn galluogi datblygiad cymwysterau newydd ar gyfer dysgwyr seiliedig ar waith a allai gefnogi cyflwyno prentisiaeth sylfaen newydd ym maes adeiladu gan Lywodraeth Cymru a Medr.  

Rydyn ni wedi adolygu’r ymatebion a gawsom i'r cynnig hwn a’u hystyried yn drylwyr, ac rydyn ni’n cadarnhau ein bod yn gweithredu'r Amrywiad sy’n cael ei gynnig.  

Rydyn ni bellach wedi cyhoeddi'r Amrywiad i'r Penderfyniad i Gyfyngu 

Ar 11 Chwefror 2026, fe wnaethon ni gyhoeddi datganiad ar y cyrsiau prentisiaeth newydd ym maes adeiladu a fydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru.