NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

17.11.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
CYFLOGWYR
RHANDDEILIAID

Amser yn dod i ben i Ddweud Eich Dweud ar drawsnewid cymwysterau TGAU yng Nghymru

Gyda llai na mis i fynd tan i un o'r ymgynghoriadau mwyaf erioed ar addysg yng Nghymru gau, mae Cymwysterau Cymru yn annog athrawon, dysgwyr, rhieni, cyflogwyr a'r cyhoedd i 'Ddweud Eich Dweud' ar newidiadau sylweddol i gymwysterau TGAU.

I adlewyrchu’r rôl ganolog mae dysgwyr yn ei chwarae yn y sgwrs genedlaethol hon, ar 16 Tachwedd cymerodd ysgolion ledled y wlad ran yn ein ‘Diwrnod Dweud Eich Dweud’, gydag athrawon yn cyflwyno gwersi wedi’u hanelu at geisio barn dysgwyr ar y cynigion. Mae Cymwysterau Cymru hefyd am glywed barn athrawon cynradd ac uwchradd, rhieni a gofalwyr, a chyflogwyr.

Wrth ddatblygu'r cynigion hyn, fe gasglodd Cymwysterau Cymru safbwyntiau gan dros 1,400 o ddysgwyr, ar yr hyn maen nhw ei eisiau gan gymwysterau'r dyfodol.

Mae'r newidiadau arfaethedig i 26 o gymwysterau gwahanol yng Nghymru yn cyd-fynd â gofynion y Cwricwlwm i Gymru, a ddechreuodd gael ei ddysgu mewn nifer o ysgolion ym mis Medi. Mae Cymwysterau Cymru yn gofyn am adborth ar gynnwys ac asesu arfaethedig amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys TGAU newydd sbon mewn Astudiaethau Cymdeithasol, Peirianneg, Ffilm a'r Cyfryngau Digidol, a Dawns.

Bydd y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd a chymwysterau cysylltiedig yn cynnig:

  • cyfleoedd i ddysgwyr ddangos y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiadau a gafwyd trwy astudio'r Cwricwlwm i Gymru;
  • cynnwys ac asesiadau hyblyg i helpu ysgolion i gynllunio eu cwricwla eu hunain a bodloni anghenion dysgwyr;
  • cymysgedd o ddulliau asesu, gyda llai o bwyslais ar arholiadau a mwy o gyfleoedd i gael eu hasesu yn ystod y cwrs astudio;
  • defnydd mwy effeithiol o asesiadau digidol

Bydd y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd yn cael eu cyflwyno yn 2025, a disgyblion ym Mlwyddyn 7 ar hyn o bryd fydd y garfan gyntaf i astudio ar gyfer y cymwysterau newydd.

Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad:

Cyflwynwch eich barn trwy wefan bwrpasol Cymwysterau Cymru - Dweud Eich Dweud - Cymwysterau Cymru. Gallwch chi ymateb i gynigion manwl ar gyfer pob TGAU, neu roi adborth cyffredinol ar y newidiadau i gyd.

Mae’r ymgynghoriad, a lansiodd ar 4 Hydref 2022, yn cau ar 14 Rhagfyr 2022. Ym mis Mai 2023, byddwn yn cyhoeddi’r gofynion dylunio terfynol rydyn ni’n eu galw’n ‘Feini Prawf Cymeradwyo’. Rhaid i gyrff dyfarnu ddilyn y Meini Prawf Cymeradwyo hyn pan fyddan nhw’n datblygu’r fanyldeb fanwl a’r asesiadau ar gyfer pob cymhwyster newydd.

Dywedodd Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru:

“Bydd hwn yn newid mawr mewn addysg yng Nghymru felly mae’n bwysig iawn ein bod ni’n casglu ystod mor eang â phosibl o safbwyntiau fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Rydyn ni wedi datblygu'r cynigion hyn i ailddychmygu sut y dylai cymwysterau TGAU edrych yn y dyfodol o ran dylunio a chynnwys. Nawr mae angen inni glywed beth yw barn pobl amdanyn nhw. Er ein bod ni’n awyddus i glywed gan ddysgwyr sy'n astudio ar hyn o bryd, a chan athrawon, rydyn ni hefyd am glywed gan eraill sy’n awyddus i sicrhau bod y cymwysterau newydd yn addas i'r diben - gan gynnwys rhieni, gofalwyr a chyflogwyr. Does dim angen i chi fod yn gweithio yn y sector addysg i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Dywedwch wrthon ni beth ydych chi'n ei feddwl cyn iddo gau ar 14 Rhagfyr."

Dywedodd Rhodri Thomas, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth:

“Roedden ni’n falch iawn o groesawu ein cyn-ddisgybl, Emyr George, yn ôl i’r ysgol ar Ddiwrnod Dweud Eich Dweud, i egluro’r newidiadau arfaethedig i’n disgyblion a’u hannog i rannu eu barn ar y cynigion. Rydyn ni’n falch iawn bod ystod mor eang o safbwyntiau cael eu ceisio ar gyfer yr ymgynghoriad hwn, er mwyn sicrhau y bydd y cymwysterau newydd yn cynnig rhywbeth i bawb. Rydyn ni’n falch iawn o helpu i lunio TGAU'r dyfodol."