Trosolwg o ganlyniadau Ionawr 2022
Roedd cyfres arholiadau mis Ionawr 2022 yn eithriadol oherwydd COVID-19 a'r tarfu parhaus ar addysgu a dysgu drwy gydol y flwyddyn.
Roedd y gyfres yn cynnwys arholiadau uned ar gyfer TGAU Llenyddiaeth Saesneg, TGAU Llenyddiaeth Gymraeg a TGAU TGCh, Tystysgrifau Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru a rhai elfennau o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 a 3 a chymwysterau Gofal Plant Lefel 2 a 3.
Da iawn i bob dysgwr sydd wedi sefyll arholiadau ac asesiadau yn barod eleni, a diolch i'r ysgolion, y colegau a'r canolfannau eraill a weithiodd yn galed i sicrhau bod y gyfres arholiadau hon wedi mynd yn ei blaen.
Cafodd y dysgwyr eu hasesu yn unol â gofynion asesu addasedig CBAC. Gwnaethon ni fonitro'n agos ddarpariaeth CBAC o'r gyfres hon, a'r dull a ddefnyddiwyd i ddyfarnu graddau yn y cyd-destun hwn. Rydyn ni’n hyderus bod prosesau cytûn wedi eu dilyn a bod y dyfarniadau mor deg â phosibl i ddysgwyr.
Mae rhagor o wybodaeth am gyfres arholiadau Ionawr 2022 a chanlyniadau ar gael ar wefan CBAC.