NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

06.03.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Trosolwg o ganlyniadau Ionawr 2025

Heddiw, bydd rhai dysgwyr yng Nghymru yn cael eu canlyniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2025.

Da iawn i'r holl ddysgwyr yng Nghymru a gafodd eu canlyniadau gan CBAC heddiw, am arholiadau a gafodd eu sefyll ym mis Ionawr. A diolch i'r holl ysgolion, colegau a chanolfannau eraill ledled Cymru a weithiodd yn galed i gyflwyno'r gyfres arholiadau hon. 

Roedd cyfres mis Ionawr 2025 yn cynnwys: arholiadau uned ar gyfer TGAU Llenyddiaeth Saesneg a TGAU Llenyddiaeth Gymraeg, rhai elfennau a dyfarniadau cymwysterau Lefel 2 a 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chymwysterau Lefel 2 a 3 Gofal Plant, cymwysterau’r Dystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.

Fel rhan o'n rôl fel rheoleiddiwr cymwysterau Cymru, buom yn monitro’r ffordd yr oedd CBAC yn cyflwyno'r gyfres hon a'r dull a ddefnyddiwyd i ddyfarnu graddau. Rydyn ni’n hyderus bod y prosesau y cytunwyd arnyn nhw wedi’u dilyn a bod y graddau a ddyfarnwyd mor deg â phosibl i ddysgwyr.

Mae'r rhan fwyaf o ganlyniadau cyfres mis Ionawr ar lefel uned, sy'n golygu eu bod yn un rhan o gymhwyster mwy, ac felly nid ydynt yn cael eu cyhoeddi. Cyhoeddodd CBAC ganlyniadau ar gyfer unrhyw gymwysterau cyflawn ar gyfer cyfres arholiadau Ionawr 2025 yng Nghymru ar ei wefan heddiw. Lle mae nifer fach iawn o gofrestriadau, yna ni chyhoeddir y data hwn. Mae hyn yn berthnasol i ganlyniadau cyntaf cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ar gyfer y gyfres hon.