Annog cyflogwyr i chwarae eu rhan wrth lunio cymwysterau sgiliau'r dyfodol
Mae Cymwysterau Cymru yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad sy'n canolbwyntio ar gyflogwyr ddydd Llun 5 Mehefin ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd.
Mae Cymwysterau Cymru yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad sy'n canolbwyntio ar gyflogwyr ddydd Llun 5 Mehefin ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd. Mae hwn yn gyfle amserol i'r rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol siarad â chyflogwyr am ei gynigion ymgynghori ar gymwysterau a sgiliau 14-16.
Mae Cymwysterau Cymru yn llawn cyffro ynghylch cynnwys cyflogwyr o amrywiaeth o sectorau mewn trafodaeth ar dri chynnig a fydd yn cefnogi dysgwyr i gael mynediad at gymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith.
Gyda siaradwyr gwadd o gyflogwyr lleol a phanel trafod arbenigol - gan gynnwys y Ffederasiwn Busnesau Bach, Ogi, Admiral, a Choleg y Cymoedd - bydd busnesau o bob rhan o’r rhanbarth yn mynd i'r afael â phwysigrwydd cymwysterau a sgiliau meddalach yn eu harferion recriwtio a'u gweithleoedd. Byddan nhw hefyd yn cael cyfle i siarad am sut maen nhw am helpu i lunio cynnig cymwysterau sy'n cefnogi pobl ifanc i ennill y sgiliau hyn tra yn yr ysgol.
Bydd cyfle i gyflogwyr drafod eu barn ar y cynigion ar gyfer Cyfres Sgiliau gydag unedau mewn Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith, a chymhwyster Prosiect Sgiliau Cyfannol ynghyd â chymwysterau Cyn-alwedigaethol a Sylfaen – gan archwilio a yw’r cymwysterau arfaethedig hyn yn bodloni anghenion gweithlu’r dyfodol.
Mae’r ymgynghoriad hwn, sy’n dod i ben ar 14 Mehefin 2023, yn gyfle unigryw i gyflogwyr gael effaith ystyrlon ar lwyddiant y genhedlaeth nesaf ac i feithrin y dalent a’r sgiliau maen nhw am eu gweld yn eu gweithwyr yn y dyfodol.
Yn ymuno â Cymwysterau Cymru yn y digwyddiad fydd:
- Jonathan Morgan, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg y Cymoedd
- Gwyneth Sweatman, Pennaeth Cyfathrebu yng Nghymru ar gyfer y Ffederasiwn Busnesau Bach
- Louise Mumford, Arbenigwr Dysgu a Datblygu gydag Ogi
- Kyle Meacock, Uwch Bartner Talent gyda Grŵp Admiral
Dywedodd Louise Mumford, Arbenigwr Dysgu a Datblygu o Ogi:
“Mae Ogi wedi tyfu o fod yn dîm o 20 i 200 mewn dwy flynedd. Rydyn ni’n symud yn gyflym ac mae recriwtio’r dalent orau, yn seiliedig ar sgiliau a phrofiad, yn amlwg yn hollbwysig. Mae rhai o'n rolau yn dechnegol iawn ac mae cymwysterau yn amlwg yn bwysig. Ond mae gennym hefyd frand a diwylliant cadarn ac mae cyflogi unigolion cyflawn sydd â’r sgiliau meddal cywir hefyd yn hanfodol os ydyn ni am ragori a darparu gwasanaeth unigryw i'n cwsmeriaid. Rydyn ni felly’n croesawu’r pwyslais a roddir yng Nghymru ar sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau cyfannol sydd eu hangen arnyn nhw fel unigolion, sydd eu hangen arnom ni fel busnesau, ac sydd eu hangen hefyd ar economi Cymru ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.”
Dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:
“Mae cyflogwyr yn rhanddeiliad allweddol yn ein hymgynghoriad ar y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16. Ein nod yw darparu cymwysterau sy’n paratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith, felly mae’n rhaid i’r cymwysterau hyn adlewyrchu anghenion busnesau yng Nghymru. Rydyn ni am glywed barn cyflogwyr ar ein cynigion ar gyfer ystod newydd gyffrous o gymwysterau Sgiliau Gwaith a Sgiliau Bywyd, a bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i sgwrsio â gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o sectorau."