Annog ymholi drwy TGAU Y Gwyddorau: esbonio’r cymhwyster dwyradd newydd
Mazen Abdelmoteleb, Rheolwr Cymwysterau , sy’n archwilio'r cymhwyster TGAU Y Gwyddorau newydd ac yn ystyried yr hyn y mae angen i athrawon a dysgwyr fod yn ymwybodol ohono, cyn yr addysgu gyntaf ym mis Medi 2026.

Mae TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) yn cynnig profiad dysgu cyfoethog, perthnasol a gafaelgar, wedi'i gynllunio i ysbrydoli a herio'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yng Nghymru.
Mae'r cymhwyster newydd cyffrous hwn yn disodli'r TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) presennol. Mae'n cynnig taith ysgogol i ddysgwyr trwy fioleg, cemeg a ffiseg, gyda chyfleoedd i ddysgwyr archwilio sut mae gwahanol bynciau ym mhob disgyblaeth yn ymwneud â'i gilydd.
Trwy gyfuno'r disgyblaethau gwyddonol craidd â chyd-destunau cyfoes a sgiliau hanfodol, nod y cymhwyster hwn yw grymuso dysgwyr i archwilio, cysylltu a chymhwyso eu dealltwriaeth mewn ffyrdd ystyrlon. Mae sgiliau ymholi gwyddonol wedi'u hymgorffori trwy gydol y cymhwyster i annog chwilfrydedd ymhlith dysgwyr.
Bydd y cymhwyster dwyradd newydd yn cefnogi cynnydd i UG a Safon Uwch yn y gwyddorau.
Beth sy'n newid yn y cymhwyster dwyradd newydd?
Mae'r cymhwyster newydd hwn wedi'i gynllunio i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys y datganiadau perthnasol o'r 'hyn sy'n bwysig' o faes dysgu a phrofiad gwyddoniaeth a thechnoleg.
Teitl newydd y cymhwyster
Un o'r newidiadau mwyaf amlwg yw'r teitl newydd: TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd).
Mae hwn wedi bod yn newid bwriadol i dynnu sylw at ymdriniaeth gynhwysfawr y cymhwyster â'r tair disgyblaeth graidd sef bioleg, cemeg a ffiseg. Mae hefyd yn pwysleisio gwerth datblygu dealltwriaeth dysgwyr o sut mae syniadau gwyddonol yn cydgysylltu, yn unol â'r canllawiau a nodir yn y Cwricwlwm i Gymru.
Deall y gwyddorau trwy gyd-destunau cyfoes a gafaelgar
Mae'r cynnwys wedi'i adolygu i fod yn fwy perthnasol a gafaelgar i ddysgwyr heddiw.
Mae'n creu cyfleoedd ystyrlon i ddysgwyr archwilio themâu trawsgwricwlaidd o’r Cwricwlwm i Gymru, megis cynaliadwyedd.
Bydd dysgwyr hefyd yn archwilio pynciau fel newid hinsawdd, iechyd pobl, trydan ar gyfer y dyfodol a chyflenwad dŵr y ddaear, gan gael cyfleoedd i ddyfnhau eu dealltwriaeth o'r materion hanfodol hyn ar draws cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Archwilio perthnasoedd a chysylltiadau rhwng pynciau a disgyblaethau
Mae llawer o bynciau a chysyniadau gwyddonol yn gysylltiedig â'i gilydd. Er mwyn adlewyrchu hyn, mae'r cymhwyster newydd yn cynnig cyfle i ddysgwyr archwilio sut mae gwahanol bynciau ym mhob disgyblaeth wyddoniaeth yn cydberthyn. Bydd y cysylltiadau hyn yn cael eu hasesu trwy'r arholiadau terfynol ar ddiwedd Blwyddyn 11.
Mae TGAU Y Gwyddorau hefyd wedi'i ddylunio i greu cyfleoedd i athrawon archwilio’r perthnasoedd a’r cysylltiadau rhwng y gwyddorau gyda'u dysgwyr, ond ni fydd hyn yn cael ei asesu'n uniongyrchol.
Asesiad newydd sy'n canolbwyntio ar sgiliau ymholi gwyddonol
Mae sgiliau ymholi gwyddonol yn hanfodol i addysgu a dysgu gwyddoniaeth. Yn unol â chanllawiau'r cwricwlwm, caiff dysgwyr eu hannog i fod yn chwilfrydig, i ofyn cwestiynau ac i chwilio am atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Drwy gydol y cymhwyster, bydd cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau ymholi gwyddonol, gan gynnwys nodi manteision a heriau defnyddio ymholi gwyddonol i archwilio syniadau ac ateb cwestiynau, gwneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar ymholi gwyddonol, a dadansoddi data.
Bydd sgiliau gwyddonol ymarferol yn cael eu hasesu fel rhan o Asesiad newydd o Ymholiad Gwyddonol. Bydd yr asesiad hwn yn cynnwys elfen ymarferol, yn seiliedig ar gyd-destunau perthnasol a gafaelgar, yn ogystal â chwestiynau sy'n asesu ystod o sgiliau ymholi eraill.
Y strwythur graddio
Bydd TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) yn gymhwyster unedol. Mae hyn yn golygu y bydd dysgwyr yn cael cyfle i gwblhau asesiadau ym Mlwyddyn 10 a Blwyddyn 11.
Bydd dysgwyr sy'n cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn derbyn dwy radd ar raddfa o A* - G. Mae hyn yn adlewyrchu maint y cymhwyster ac yn arwydd o ehangder y gwaith y mae dysgwyr wedi'i gwblhau. Bydd y ddwy radd yma’n seiliedig ar raddfa wyth pwynt, sy'n golygu y bydd y ddwy radd yr un peth.
Mae'r dull hwn yn cael ei ddefnyddio ym mhob cymhwyster TGAU dwyradd gwneud-i-Gymru er mwyn sicrhau cysondeb.
Cymorth i athrawon
Dros y flwyddyn i ddod, bydd CBAC yn cyflwyno rhaglen o ddysgu proffesiynol ac adnoddau i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r cymhwyster hwn, gan gynnwys:
- canllawiau i fanylebau
- sesiynau briffio ar-lein byw ar y cymwysterau
- digwyddiadau wyneb yn wyneb 'Paratoi i Addysgu'
- canllawiau i asesiadau
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan.