Archwilio creadigrwydd, arloesedd a dilysrwydd mewn asesiadau ar sgrin
Mae Nathan Evans, o’n tîm moderneiddio asesu, yn archwilio canfyddiadau cyfres ddiweddar o weithdai asesu digidol yn y gyfres blog pedair rhan hon.
Pan fyddwn ni’n meddwl am arholiadau, mae'n debyg y bydd llawer ohonon ni’n meddwl amdanyn nhw fel profiadau eithaf tawel. Ond gofynnodd y rhai a wnaeth fynychu ein gweithdai’r cwestiwn: beth os nad oedd yn rhaid sefyll arholiadau’n dawel a beth allai hyn ei olygu i gynllun asesiadau?
Gall arholiadau digidol gynnwys amrywiaeth o ddeunydd ysgogi – a all gynnwys deunydd sain neu glyweledol. Ond gallan nhw hefyd alluogi dysgwyr i fewnbynnu ymatebion gyda’u lleisiau a, gyda thechnolegau goruchwylio o bell yn cael eu defnyddio’n ehangach, efallai y bydd cyfleoedd i ymateb i gwestiynau fel hyn yn y dyfodol.
Bu’r athrawon wnaeth gymryd rhan yn y gweithdy yn archwilio sut i greu eitemau prawf a oedd yn caniatáu mewnbwn lleisiol, gan alluogi dysgwyr i egluro prosesau, dadansoddi tystiolaeth a mynegi eu barn ar lafar. Nododd yr athrawon y gallen nhw osod terfynau hawdd ar agweddau fel hyd recordio a faint o weithiau y gallai’r dysgwyr roi cynnig ar ateb cwestiwn. Mae’r hyblygrwydd yma’n caniatáu i asesiadau gael eu haddasu, gan roi mwy o amser ac unrhyw nifer o ymgeisiau i ddysgwyr ar gyfer profion lle mae llai yn y fantol, tra gall arholiadau lle mae mwy yn y fantol fod â chyfyngiadau mwy llym er mwyn cynnig darlun cliriach o wybodaeth dysgwr. Gall nodweddion digidol ychwanegol, fel pad nodiadau ar y sgrin, helpu dysgwyr i drefnu eu meddyliau, gan wella ansawdd yr ymateb. Roedd athrawon hefyd yn hoffi sut y gallai llwyfannau digidol integreiddio fideos a delweddau i hybu lefelau diddordeb dysgwyr.
Daeth un enghraifft amlwg o'n gweithdai gan athro cerdd a ddyluniodd dasg mewnbynnu sain i asesu gallu dysgwr i ddarllen a pherfformio cerddoriaeth ddalen. Nododd yr athro, o ystyried bod y ddau sgìl yma’n rhai sylfaenol mewn cyd-destunau go iawn, sy'n seiliedig ar berfformiad, gallai eu hasesu gyda'i gilydd fel hyn fod yn ffordd ddilys iawn o gynnwys y sgiliau hyn fel rhan o asesiad wedi’i safoni, gan hyrwyddo dibynadwyedd. Awgrymodd yr athro hefyd y gallai eitemau fel hyn gael eu cynnwys mewn asesiadau ar y sgrin sy'n cael eu cynnig mewn modd hyblyg, ac felly'n gallu cael eu cymryd ar adeg neu mewn man sy'n gyfleus i ddysgwyr a chanolfannau.
Fe wnaeth athro Dylunio a Thechnoleg greu cwestiwn asesu gan ddefnyddio math gwahanol o ddeunydd ysgogi, gan ofyn i ddysgwyr wylio arddangosiad fideo o lin-blygu ac i restru tair gweithdrefn iechyd a diogelwch y dylid eu dilyn. Gyda'r ffocws ar restru, fe wnaeth yr athro gynnwys pad nodiadau i fyfyrwyr nodi pwyntiau allweddol a threfnu eu meddyliau cyn ateb ar lafar.
Yn ddiddorol, rhoddodd yr athro yma’r dewis i ddysgwyr ymateb naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar, yn dibynnu ar ba ddull roedden nhw’n fwy cyfforddus ag ef. Pan ofynnwyd pam, nododd yr athro fod rhai dysgwyr yn fwy cyfforddus yn esbonio prosesau Dylunio a Thechnoleg yn uchel, yn hytrach na'u hysgrifennu, ac fel arall. Ar ben hynny, eglurodd yr athro fod ffocws yr asesiad ar ddeall y broses Dylunio a Thechnoleg, nid ar sgiliau cyfathrebu, felly gallai rhoi’r dewis yma helpu i sicrhau bod yr amodau yr un fath i bawb. Roedd athrawon eraill yn cytuno y gallai darparu'r mathau hyn o opsiynau mewn asesiadau digidol fod yn ffordd decach o adael i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth pan nad cyfathrebu yw'r prif ffocws.
Mae’r enghreifftiau hyn yn awgrymu y gall llwyfannau digidol roi’r cyfle i ni gasglu tystiolaeth asesu mewn gwahanol ffyrdd, a chaniatáu i ddysgwyr ymwneud ag asesu mewn ffyrdd sy’n gweddu orau i’w dewisiadau dysgu. Yn bwysicaf oll, mae asesiadau digidol yn ein galluogi i ystyried y ffordd orau o alluogi dysgwyr i ddangos yr hyn maen nhw’n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.