Archwilio creadigrwydd, arloesedd a dilysrwydd mewn asesiadau ar sgrin: Arloesedd
Mae Nathan Evans, o'n tîm moderneiddio asesu, yn archwilio canfyddiadau cyfres ddiweddar o weithdai asesu digidol yn ail ran y gyfres blog pedair rhan hon.
Mae llwyfannau asesu digidol yn cynnig posibiliadau cyffrous ar gyfer asesu sgiliau a gwybodaeth mewn ffyrdd modern a chreadigol sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall arholiadau traddodiadol ar bapur ei wneud.
Roedd un dull a archwiliwyd gennym yn ystod ein gweithdai gydag athrawon yn ymwneud â meddalwedd gyfarwydd, a ddefnyddir yn rheolaidd mewn dysgu a'r gweithle, wedi'i hintegreiddio â llwyfan diogel. Roedd ein cyfranogwyr yn teimlo y gall y dull hwn wneud asesiadau'n fwy dilys a chefnogol o gynnydd dysgwyr.
Er enghraifft, fe wnaethom greu senario cyfrifeg lle roedd yn rhaid i ddysgwyr adolygu taenlen, nodi gwallau, a'u cywiro — yn union fel y byddent yn ei wneud mewn gweithle. Mae'r llwyfan wedi ymgorffori Microsoft Excel yn ei gleient diogel, ynghyd â bron pob un o'i swyddogaethau bwrdd gwaith, gan ganiatáu i ddysgwyr weld, ychwanegu a golygu fformiwlâu celloedd.
Yn ogystal â gallu cynnwys y defnydd o gymwysiadau meddalwedd eraill, gall llwyfannau digidol hefyd ymgorffori deunydd ysgogi rhyngweithiol a modelau efelychu.
Archwiliodd athro gwyddoniaeth sut y gellid asesu sgiliau ymchwilio gwyddonol, gan ddefnyddio model efelychiadol fel sail i'r eitem. Trwy ryngweithio â'r model, gallai dysgwyr arbrofi gyda phwysau a sbringiau i gofnodi canlyniadau a dadansoddi data o fewn cyd-destun asesiad ar y sgrin. Mae'r dull hwn nid yn unig yn gwneud yr asesiad yn fwy difyr, ond hefyd yn cysylltu'r theori yn agos â’r elfen ymarferol. Yn ogystal, nododd cyfranogwyr y gall efelychiadau efelychu arbrofion yn ddiogel - arbrofion a allai fod yn ormod o risg, yn rhy gostus neu’n anymarferol mewn ystafell ddosbarth - gan eu gwneud yn raddadwy ac yn hygyrch i fwy o ddysgwyr.
Fodd bynnag, mae'n werth nodi bod ein cyfranogwyr hefyd wedi canfod na ellid asesu'r holl luniadau na'r sgiliau a dargedwyd ganddynt yn effeithiol trwy ddulliau digidol heb ddefnyddio caledwedd ychwanegol. Yn yr enghraifft ganlynol, ceisiodd athro dylunio a thechnoleg asesu'r gallu i greu ac anodi diagramau trawstoriadol yn ddigidol. Ar gyfer y dasg byddai dysgwyr yn creu a labelu diagram gan ddefnyddio llygoden, a oedd yn heriol i’w wneud yn gywir â'r dull mewnbwn oedd ar gael.
Roedd y cyfranogwr yn cydnabod nad oedd yr eitem yn addas iawn i'r pwrpas am ddau brif reswm. Y rheswm cyntaf oedd y byddai creu'r diagram hwnnw fel hyn yn rhywbeth y byddai dysgwyr yn anghyfarwydd ag ef ac ni fyddai’n adlewyrchu arferion safonol. Yn ail, ni fyddai'r eitem yn caniatáu i ddysgwyr ddangos y sgiliau y mae'r athro yn ceisio eu hasesu; yn yr achos hwn,gallu creu a labelu'r diagram. Fodd bynnag, nodwyd, pe bai'r lluniad oedd yn cael ei asesu yn wahanol, er enghraifft gofyn i ddysgwr nodi cydrannau allweddol a labelu diagram oedd eisoes yn bodoli, yna byddai cyfleoedd i'w asesu'n ddigidol mewn ffordd ddilys a difyr.
Roedd myfyrdodau gonest y cyfranogwyr ar ba mor dda y gwnaeth eu heitemau fodloni eu nodau dylunio yn tynnu sylw at ba mor hanfodol yw canolbwyntio ar asesu'r pethau cywir yn y ffyrdd cywir, gan ddefnyddio offer digidol lle gallant wella ansawdd yr asesu. Yn bwysicach fyth, dangoswyd bod llwyfannau asesu digidol bellach yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer dylunio asesu mewn ffordd ddilys a dylunio profiadau asesu difyr.
Darllenwch flogiau eraill yn y gyfres hon: