BLOG

Cyhoeddwyd:

31.01.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Archwilio creadigrwydd, arloesedd a dilysrwydd mewn asesiadau ar sgrin: Hygyrchedd a Chynwysoldeb

Mae Nathan Evans, o’n tîm moderneiddio asesu, yn archwilio canfyddiadau cyfres ddiweddar o weithdai asesu digidol yn y gyfres blog pedair rhan hon.

Mae dylunio asesiadau gafaelgar yn cynnwys ystyriaeth fanwl o sut y gallant fod yn hygyrch ac yn gynhwysol. Mae moderneiddio asesu a gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol yn cynnig cyfleoedd anhygoel i ddiwallu anghenion dysgwyr yn well. 

Gall asesu digidol roi'r gallu i ddysgwyr addasu eu profiadau eu hunain. Er enghraifft, nododd yr athrawon fu'n cyfrannu y gallai'r opsiynau ar gyfer newid troshaenau lliw a newid maint testun, a ddangosir yn y fideo isod, gefnogi dysgwyr â dyslecsia yn effeithiol trwy wella darllenadwyedd a lleihau straen gweledol. 

 

 

Mae llwyfannau digidol hefyd yn cynnig opsiynau cyfryngau cynorthwyol, fel swyddogaethau testun-i-leferydd. Gall y nodweddion hyn fod o fudd sylweddol i ddysgwyr ag amhariad ar eu golwg, er enghraifft, gan leihau rhwystrau o ran cymryd rhan mewn asesiadau. Gall yr offer hyn hefyd gefnogi cynwysoldeb cyffredinol asesiad, gan gael eu defnyddio efallai gan ddysgwyr sy'n teimlo y byddent yn elwa o wrando ar gwestiwn, tasg neu ddarn o ddeunydd ysgogi ysgrifenedig.  

Yn fyr, mae asesiadau digidol yn cynnig mwy o ffyrdd i fwy o ddysgwyr ymwneud â'r un asesiad. Roedd athrawon hefyd yn gwerthfawrogi manteision ymarferol yr offer hyn. Gyda nodweddion cynorthwyol parod, mae llai o angen am offer arbenigol fel darllenwyr sgrin, gan symleiddio'r broses i bawb. 

 

 

Gan feddwl y tu allan i asesiadau crynodol lle mae llawer yn y fantol, roedd rhai llwyfannau digidol hefyd yn ystyried sut y gallent gefnogi dysgwyr gydag asesiadau lle mae llai yn y fantol neu asesiadau ffurfiannol, neu gynnig gwybodaeth atodol ddefnyddiol ar gyfer eitem benodol. Er enghraifft, mae'r swyddogaeth 'awgrym' a ddangosir yn yr enghraifft isod yn caniatáu i fyfyrwyr gael ychydig o hwb i'r cyfeiriad cywir wrth gyfrifo grym canlyniadol.  

Gallu'r dysgwr i ddefnyddio hafaliad yn gywir yw prif ffocws yr athro fan hyn, nid ei allu i’w gofio. Er efallai na fydd hyn yn addas ar gyfer asesiad lle mae llawer yn y fantol, roedd athrawon yn ei ystyried yn offeryn pwerus ar gyfer yr ystafell ddosbarth, gan hyrwyddo annibyniaeth dysgwyr wrth ganiatáu i athrawon dargedu eu cefnogaeth yn fwy effeithiol. 

 

 

Er bod manteision unigol yr holl swyddogaethau hyn yn effeithiol, pan gânt eu dwyn ynghyd, mae cyfleoedd i ddysgwyr gymryd profiadau asesu mwy personol, sy'n eu galluogi i ddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth yn fwy effeithiol. Mae'n werth tynnu sylw hefyd at y ffaith bod llawer o'r nodweddion hygyrchedd hyn - fel testun-i-leferydd neu droshaenau lliw - yn gallu cael eu rheoli'n uniongyrchol gan ddysgwyr yn ystod yr asesiad, gan hyrwyddo eu hannibyniaeth a magu hyder. 

I grynhoi, mae asesiadau digidol yn cynnig amrywiaeth gyfoethog o offer a all greu amgylcheddau mwy hygyrch a chynhwysol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle i lwyddo, waeth beth yw eu hanghenion neu eu hamgylchiadau unigol. 

Darllenwch fwy yma: 

Pontio tuag at asesu digidol –  i ddod cyn hir