NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

25.03.26

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Asesiadau digidol mewn TGAU yn y dyniaethau

Mae Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi y bydd asesiadau digidol mewn cymwysterau TGAU Cenedlaethol mewn pedwar pwnc yn y dyniaethau bellach yn cael eu cyflwyno'n hwyrach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol.

Mae asesiadau digidol yn cael eu cyflwyno mewn amrywiaeth o gymwysterau TGAU Cenedlaethol er mwyn gwella dilysrwydd asesu mewn pynciau perthnasol, ac i ennyn diddordeb dysgwyr yn eu hasesiadau. Mae'r asesiadau digidol hyn yn cael eu cyflwyno fesul cam tan haf 2031, gan ddechrau gydag un asesiad digidol newydd yn haf 2026. Mae Cymwysterau Cymru yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a CBAC, gan adeiladu ar ei brofiad o gynnig asesiadau digidol, i gefnogi ysgolion drwy gydol y cyfnod hwn. 

Fodd bynnag, mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym y gallai'r amseru sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd ar gyfer cyflwyno asesiadau digidol mewn cymwysterau TGAU mewn daearyddiaeth, astudiaethau cymdeithasol, astudiaethau crefyddol a busnes effeithio ar allu ysgolion i'w gweithredu'n llwyddiannus.  

Felly, rydyn ni wedi cytuno y bydd asesiadau digidol yn y pynciau hyn yn cael eu cyflwyno ar ôl y cyfnod cymeradwyo cychwynnol o bum mlynedd, sy'n golygu y bydd y newidiadau hyn bellach yn dechrau o 2031 ar y cynharaf. Mae hyn yn caniatáu amser i bob canolfan ddod yn fwy hyderus ynghylch cyflwyno asesiadau digidol. 

Mae Cymwysterau Cymru yn parhau i fod yn uchelgeisiol o ran defnyddio technoleg ddigidol wrth asesu, ac yn hyderus ynghylch ei allu i wella dilysrwydd asesiadau, adlewyrchu dulliau digidol o ddysgu a chefnogi cynnydd dysgwyr i ddysgu pellach a'r byd gwaith. Byddwn ni’n parhau i ymgysylltu'n agos â rhanddeiliaid i sicrhau, pan gyflwynir yr asesiadau digidol hyn, y byddant o fudd i ddysgwyr ac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau digidol canolfannau.  

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru:
"Bydd cynyddu nifer yr asesiadau digidol mewn Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 o fudd i ddysgwyr trwy wneud eu hasesiadau’n fwy dilys a gafaelgar, a chefnogi eu cynnydd yn y dyfodol. Mae cyflawni hyn dros gyfnod hirach yn rhoi mwy o amser i ysgolion ac awdurdodau lleol baratoi ar gyfer ystod ehangach o asesiadau digidol a meithrin hyder yn y dull asesu hwn." 

Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC:
“Mae CBAC wedi bod ar flaen y gad o ran cynnig asesiadau ar y sgrin mewn cymwysterau lle mae llawer yn y fantol ers dros ddegawd. Mae'r newid hwn yn cynnig ffordd glir ymlaen ar gyfer cwmpas asesu ar y sgrin ar gyfer pum mlynedd cyntaf y cymwysterau TGAU newydd hyn. Byddwn ni’n parhau i gynnig asesiadau ar y sgrin mewn ystod eang o gymwysterau TGAU newydd, gan gynnig profiadau asesu gafaelgar a dilys i ddysgwyr." 

Gallwch chi ddysgu mwy am asesiadau digidol mewn Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 ar wefan Cymwysterau Cymru.