Canllawiau i gyrff dyfarnu ar gymwysterau ac asesiadau cynhwysol
Mae cymwysterau cynhwysol yn hanfodol i sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfleoedd tecaf posibl i ddangos yr hyn maen nhw’n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud. Mae Cymwysterau Cymru wedi diweddaru ei ganllawiau Mynediad Teg drwy Ddylunio, sy'n nodi argymhellion ar gyfer cyrff dyfarnu i ddylunio cymwysterau cynhwysol o ansawdd uchel.
Mae'r ddogfen ganllaw Mynediad Teg drwy Ddylunio, a gyd-awdurwyd gan CCEA, yn adnodd gwerthfawr i gyrff dyfarnu, gan gefnogi eu gwaith i sicrhau bod cymwysterau mor hygyrch â phosibl i bob dysgwr. Mae ein canllawiau, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2019, wedi'u diweddaru i wella hygyrchedd i gyrff dyfarnu a sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf i ddylunio cymwysterau cynhwysol, i ddarparu mynediad teg i bob dysgwr i roi'r cyfle tecaf posibl iddyn nhw ddangos yr hyn maen nhw’n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.
Mae'n ofynnol i gyrff dyfarnu ystyried anghenion pob dysgwr wrth ddatblygu cymwysterau. Dylid gwneud pob ymdrech i alluogi pob dysgwr i gymryd rhan yn yr asesiad cyfan.
Mae gan ddylunio cymwysterau cynhwysol fanteision enfawr i gyrff dyfarnu, ysgolion a cholegau, yn ogystal â'r dysgwyr sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau. Gall ystyried dylunio cynhwysol o ddechrau'r broses o ddatblygu cymwysterau leihau'r graddau y mae angen trefniadau mynediad, yn ogystal â lleihau'r angen am welliannau neu addasiadau yn y dyfodol.
Mae ein canllawiau Mynediad Teg drwy Ddylunio yn cynnwys:
- enghreifftiau o sut y gellir ymgorffori dyluniad da
- argymhellion i gefnogi arfer gorau cyrff dyfarnu wrth ddylunio cymwysterau ac asesiadau
- canllawiau ar gydymffurfio â gofynion rheoleiddio
Dywedodd Sarah John, Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:
"Mae sicrhau bod y system gymwysterau yng Nghymru yn ymgorffori ystod gynhwysol a chynaliadwy o gymwysterau perthnasol yn hanfodol i'n gweledigaeth. Ein bwriad yw sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn gallu dilyn y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i'w helpu i symud ymlaen mewn bywyd, dysgu a gwaith.
Mae ein dogfen ganllaw Mynediad Teg drwy Ddylunio yn adnodd sy'n amlinellu sut y gellir dylunio cymwysterau i roi'r cyfleoedd tecaf posibl i bob dysgwr.
Mae ar gael i gefnogi cydymffurfiaeth ag Amodau Cydnabod rheoleiddiol a rhannu arfer gorau ar gyfer cyrff dyfarnu wrth iddyn nhw ddylunio cymwysterau ar gyfer dysgwyr yng Nghymru."
Darllenwch y canllawiau Mynediad Teg drwy Ddylunio ar ein gwefan