BLOG

Cyhoeddwyd:

04.07.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR
RHANDDEILIAID

Beth allwn ni ei ddisgwyl o ganlyniadau Safon Uwch a TGAU eleni yng Nghymru?

Ar ôl dwy flynedd o aflonyddwch ar ddysgwyr, eleni oedd y tro cyntaf ers 2019 i arholiadau a gaiff eu hasesu’n allanol gael eu cynnal mewn ysgolion a cholegau. Ond beth allwn ni ei ddisgwyl pan fydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi fis nesaf?

Yr ateb syml i'r cwestiwn hwnnw yw y bydd y canlyniadau'n wahanol eleni – yn wahanol i ganlyniadau 2020 a 2021 pan na chafodd arholiadau ffurfiol eu cynnal – ac yn wahanol i ganlyniadau cyn y pandemig pan oedd arholiadau cenedlaethol yn cael eu cynnal.

Beth oedd y sefyllfa yn ystod y pandemig?

Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol i lawer o broffesiynau, ac mae gweithwyr addysg proffesiynol wedi bod ar y rheng flaen yn gweithio'n galed ac yn addasu er mwyn darparu'r addysg orau bosibl i ddysgwyr mewn amgylchiadau anodd.

Mae dysgwyr wedi dioddef aflonyddwch sylweddol. Roedd ysgolion a cholegau ar gau ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2020. Yn dilyn hynny, cafodd llawer ohonyn nhw gyfnodau clo rhanbarthol neu leol rhwng mis Medi a mis Rhagfyr y flwyddyn honno, ac yna cyfnod clo cenedlaethol arall o fis Ionawr tan ganol mis Mawrth yn 2021. Arweiniodd yr aflonyddwch hwn at Lywodraeth Cymru’n canslo cyfres arholiadau 2020 a 2021.

Roedd hyn yn golygu mai ysgolion a cholegau oedd yn dyfarnu graddau. Cafodd trefniadau amgen eu rhoi ar waith er mwyn rhoi hyblygrwydd i ysgolion a cholegau bennu graddau yn hytrach na bod dysgwyr yn cwblhau asesiadau safonedig mewn cyfres arholiadau.

Sut cafodd dysgwyr eu hasesu y llynedd?

Mewn adroddiad diweddar gwnaethon ni ei gyhoeddi yn Cymwysterau Cymru, sef Canfyddiadau a phrofiadau o raddio yn haf 2021: Ymchwil gyda gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru, cafodd aelodau staff ysgolion a cholegau eu cyfweld am y broses defnyddion nhw i asesu dysgwyr yn 2021 ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch.

Yn yr adroddiad hwnnw, fe welson ni fod ymdrechu i sicrhau tegwch a chysondeb i ddysgwyr wrth wraidd ymagwedd ysgolion a cholegau drwy gydol proses raddio haf 2021.

Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr eu bod nhw wedi defnyddio'r papurau neu’r tasgau asesu blaenorol wedi’u haddasu a oedd wedi’u darparu gan CBAC (neu gyrff dyfarnu eraill) i wneud penderfyniadau graddio ar gyfer haf 2021.

Dywedodd ychydig o dan draean (32%) o'r ymatebwyr eu bod nhw wedi defnyddio papurau arholiad neu asesiadau o flynyddoedd blaenorol ac wedi gwneud eu haddasiadau eu hunain iddyn nhw tra bo cyfran debyg (31%) wedi defnyddio cyn-bapurau heb addasiadau. Roedd tua chwarter (27%) wedi defnyddio'r tasgau asesu a oedd wedi’u darparu gan y cyrff dyfarnu ar ôl eu haddasu ymhellach ar gyfer eu dysgwyr eu hunain.

Roedd yr adroddiad yn dangos bod staff ysgolion a cholegau’n teimlo bod dibynnu ar gyn-bapurau yn gwneud graddio'n llai teg ac y gallai fod wedi ehangu'r bylchau rhwng dysgwyr o gefndiroedd breintiedig a difreintiedig. Nododd y staff hefyd fod llawer o ddysgwyr ar ei hôl hi ac nad oedden nhw’n aeddfed gan eu bod wedi colli darnau mawr o'u haddysg.

Wrth fyfyrio ar y trefniadau asesu amgen, nododd y staff eu bod nhw wedi gweithio llawer o oriau ychwanegol er mwyn sicrhau bod eu dysgwyr yn cael graddau. Roedd ymdeimlad bod darparu graddau wedi’u pennu gan ganolfan wedi'i roi ar waith fel ymrwymiad untro o dan amgylchiadau eithriadol, ond nad oedd modd disgwyl i staff ymdrin â'r gwaith ychwanegol hwnnw eto, ac na ddylai bod disgwyl iddyn nhw wneud hynny.

Beth ddigwyddodd i'r canlyniadau yn 2020 a 2021?

Roedd y canlyniadau cenedlaethol a gafodd eu gweld ym 'mlynyddoedd y pandemig' yn sylweddol uwch na'r canlyniadau arferol.

Roedd y dull hyblyg o ymdrin â threfniadau asesu a oedd ar waith i gefnogi ysgolion, colegau a dysgwyr yn golygu bod llawer o ysgolion a cholegau'n defnyddio cyn-bapurau gyda chynlluniau marcio hysbys roedd dysgwyr yn gallu paratoi ar eu cyfer. Roedd y system wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg er mwyn caniatáu i ysgolion a cholegau addasu i'w hamgylchiadau, ond rydyn ni’n gwybod bod hyn wedi arwain at anghysondebau o ran dull gweithredu ac amrywiadau mewn canlyniadau.

Cefnogi dysgwyr gyda'r dull arholiadau yn haf 2022

Wrth ddychwelyd i arholiadau yr haf yma, cafodd cymorth ychwanegol ei roi ar waith i wrthbwyso rhywfaint o'r aflonyddwch a'r newid yn ôl i brosesau arferol. Ymhlith y newidiadau eleni i gefnogi dysgwyr ac i gydnabod yr amser yma sydd wedi’i golli o ran addysgu a dysgu roedd:

  • lleihau faint o gynnwys yr oedd modd ei asesu eleni gan ganiatáu i ddysgwyr ganolbwyntio ar lai o ddeunydd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer yr arholiadau
  • dull graddio lle bydd y canlyniadau tua hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a 2021.

Rydyn ni am roi sicrwydd i bob dysgwr yng Nghymru bod y newidiadau hyn wedi’u gwneud er mwyn sicrhau bod dychwelyd i dymor arholiadau llawn mor hwylus ac mor deg â phosibl. 

Felly beth yw'r ffeithiau allweddol am ganlyniadau eleni?

  • Bydd y dull graddio yn golygu y bydd canlyniadau pynciau ar lefel genedlaethol yn adlewyrchu'n fras bwynt hanner ffordd rhwng canlyniadau haf 2019 a haf 2021.
  • Bydd y canlyniadau cenedlaethol yn uwch na 2019 ac yn is na 2021 – ond ni fydd y canlyniadau'n disgyn yn union ar y pwynt canol rhwng y ddwy flynedd yma.
  • Bydd y dull graddio yn berthnasol yn genedlaethol ar lefel pwnc - nid ar lefel ysgol neu goleg - sy'n golygu y bydd ysgolion a cholegau’n gweld lefelau gwahanol o newid yn eu canlyniadau o'u cymharu â 2021 a 2019.
  • Bydd canlyniadau'r rhan fwyaf o ysgolion a cholegau yn is na'r haf diwethaf ac yn debygol o fod yn uwch na 2019 - mae faint yn is yn dibynnu ar sut mae eu dysgwyr wedi perfformio a lefel y newid yn eu canlyniadau dros y tair blynedd diwethaf.
  • Eleni, dylai cymariaethau gael eu gwneud â chanlyniadau 2019 gan mai dyna pryd cafodd arholiadau ac asesiadau safonedig cenedlaethol eu sefyll ddiwethaf.
  • Byddai gostyngiadau mewn canlyniadau mewn ysgol neu goleg o'i gymharu â 2021 yn gallu bod oherwydd y newid yn ôl tuag at y system arferol, ac nid oes modd eu dehongli fel tystiolaeth o ostyngiad yn ansawdd yr addysg.

Diwrnodau Canlyniadau

Bydd canlyniadau'r haf yma’n cael eu rhyddhau ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Iau 18 Awst – diwrnod canlyniadau UG, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch

Dydd Iau 25 Awst – diwrnod canlyniadau TGAU a’r Tystysgrifau Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen

Mae’r disgwyl wrth i ddysgwyr aros i gael gwybod eu canlyniadau yn gallu bod yn ofnadwy o anodd. Mae'n bwysig cofio dy fod ti wedi gwneud popeth o fewn dy allu nawr; dylet ti fod yn falch o dy waith caled. Rwy'n gobeithio bydd pob dysgwr yng Nghymru yn cael y graddau maen nhw eu hangen i symud ymlaen, ond, os nad wyt ti’n cyflawni'r hyn roeddet ti wedi gobeithio, mae llawer o opsiynau ar gael a gwahanol lwybrau rwyt ti’n gallu eu dilyn. Ceisia ymlacio a mwynhau’r haf.

Gan Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio, Cymwysterau Cymru