Beth allwn ni ei ddisgwyl o ganlyniadau UG, Safon Uwch a TGAU yng Nghymru eleni?
Mae arholiadau ac asesiadau ffurfiol wedi digwydd eto yr haf hwn am yr eildro ers iddyn nhw gael eu canslo yn ystod y pandemig. Yn y darn hwn, mae Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio Cymwysterau Cymru, yn sôn am yr hyn y gallwn ei ddisgwyl pan fydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi fis nesaf.
Wrth i flwyddyn academaidd arall ddirwyn i ben, mae llawer o ddysgwyr ledled Cymru yn aros yn eiddgar am eu canlyniadau cymwysterau UG, Safon Uwch, TGAU a chymwysterau galwedigaethol. Cafodd arholiadau ac asesiadau eu cynnal eto yr haf hwn, a hynny am yr eildro ers iddyn nhw gael eu canslo yn ystod y pandemig. Fel rydych chi’n gwybod, cafodd rhai newidiadau eu gwneud eleni er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i ddysgwyr oedd yn sefyll arholiadau, ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw, ynghyd â dull graddio cefnogol.
Ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch sy’n cael eu darparu gan CBAC, bydd y canlyniadau ryw hanner ffordd rhwng rhai a ddyfarnwyd yn 2019 (y flwyddyn olaf cyn y pandemig) a 2022 (y flwyddyn gyntaf i ddysgwyr sefyll arholiadau wrth i ni ddod allan o’r pandemig). Mae hyn yn golygu pan fydd CBAC yn dyfarnu graddau, bydd y broses yn parhau i roi rhywfaint o help ychwanegol - rhwyd ddiogelwch - i ddysgwyr wrth i ni gymryd y cam nesaf ar y daith yn ôl i drefniadau asesu arferol.
Pam ydyn ni'n dilyn dull graddio cefnogol eto eleni?
Rydyn ni’n gwybod bod pandemig COVID-19 wedi tarfu’n sylweddol ar ddysgwyr, a arweiniodd at Lywodraeth Cymru yn canslo cyfres arholiadau 2020 a 2021. Yn ystod y blynyddoedd hyn, darparodd ysgolion a cholegau Raddau Asesu Canolfannau a Graddau wedi’u Pennu gan Ganolfannau a oedd yn gweithredu fel ymrwymiadau unigol o dan amgylchiadau eithriadol.
Roedd y canlyniadau cenedlaethol a gafodd eu gweld ym 'mlynyddoedd y pandemig' yn sylweddol uwch na'r canlyniadau arferol. Cynlluniwyd y dull hyblyg o ymdrin â threfniadau asesu i gefnogi ysgolion, colegau a dysgwyr, ond rydyn ni’n gwybod ei fod wedi arwain at anghysondebau o ran dull ac amrywiaeth o ran canlyniadau.
Wrth ddychwelyd i arholiadau ac asesiadau ffurfiol yr haf diwethaf, cafodd cymorth ychwanegol ei roi ar waith i wrthbwyso rhywfaint o'r aflonyddwch a'r newid yn ôl i brosesau arferol.
Eleni, rydyn ni wedi cymryd y cam nesaf ar y daith yn ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig. Roedd rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol yn dal i fod, gan gynnwys dull graddio cefnogol.
Rydyn ni’n disgwyl y bydd y canlyniadau yn amrywio ar draws pynciau ac yn genedlaethol
Er ein bod yn disgwyl y bydd canlyniadau cenedlaethol tua hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a 2022, efallai y byddwn ni’n gweld mwy o amrywiaeth mewn pynciau unigol. Y rheswm am hyn yw y gallai'r garfan o ddysgwyr sy'n sefyll yr arholiadau ar gyfer rhai cymwysterau yr haf hwn fod yn wahanol iawn i'r rhai a oedd wedi sefyll yr arholiadau yn 2019 a 2022. Mae newidiadau yn nifer y cofrestriadau ar gyfer cymwysterau penodol wedi bod yn sylweddol, a allai effeithio ar y canlyniadau trwy gyflwyno ystod wahanol o alluoedd dysgwyr ymhlith cyfanswm y grŵp o fyfyrwyr sy'n astudio'r pynciau hynny.
Gall ysgolion a cholegau unigol hefyd weld mwy o amrywiaeth yn eu canlyniadau. Er enghraifft, efallai y bydd rhai ysgolion neu golegau yn gweld nad yw eu canlyniadau cyffredinol yn agos at y canol. Ond mae'n bwysig cofio mai dim ond sampl fach iawn o ganlyniadau ar gyfer pob cymhwyster yw ysgolion a cholegau unigol, ac mae'r sefyllfa o fod tua hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a 2022 yn berthnasol i ganlyniadau cenedlaethol ar gyfer pob dysgwr ledled Cymru.
Diwrnodau Canlyniadau
Bydd canlyniadau'r haf yma’n cael eu rhyddhau ar y dyddiadau canlynol:
-
Dydd Iau 17 Awst – ar gyfer cymwysterau UG, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch
-
Dydd Iau 24 Awst – ar gyfer cymwysterau TGAU a’r Tystysgrifau Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen
-
Er nad oes un diwrnod penodol wedi’i nodi ar gyfer yr holl gymwysterau galwedigaethol, bydd canlyniadau cymwysterau galwedigaethol a thechnegol lefel 3 a ddefnyddir ar gyfer dilyniant yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 17 Awst fan hwyraf.
Yn olaf...
Rydyn ni’n gwybod y gall aros i gael gwybod canlyniadau achosi pryder. Mae'n bwysig cofio dy fod ti wedi gwneud popeth o fewn dy allu nawr a dylet ti fod yn falch o'th waith caled. Ceisia ymlacio a mwynhau’r haf.
Os wyt ti’n derbyn canlyniadau'r mis nesaf, dylet ti fod yn falch o’th ddyfalbarhad a'th waith caled, a hoffwn i ddymuno'r gorau i ti ar gyfer cam nesaf dy addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Rwy'n gobeithio y bydd pob dysgwr yn cael y graddau sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen. Ond, os na fyddi di'n cael y graddau roeddet ti wedi’u disgwyl, paid â phoeni! Cofia fod nifer o opsiynau ar gael a llwybrau gwahanol y mae modd i ti eu dilyn.
Am fwy o gefnogaeth ac arweiniad, edrycha ar wefan Cymwysterau Cymru neu cer i: