BLOG

Cyhoeddwyd:

10.08.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
RHANDDEILIAID

Beth nesaf i ddysgwyr ar ôl iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau?

Gydag wythnos nes i ganlyniadau Safon Uwch ac UG gael eu cyhoeddi, a phythefnos nes cyhoeddi canlyniadau TGAU, mae David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru, yn myfyrio ar lwyddiannau dysgwyr ledled Cymru wrth iddyn nhw ystyried eu camau nesaf.

 

Wrth i ddiwrnodau canlyniadau'r haf agosáu, bydd disgwyliadau’n cynyddu ar gyfer y nifer fawr o ddysgwyr ledled Cymru a fydd yn derbyn canlyniadau eu cymwysterau dros y pythefnos nesaf.  

Hoffwn ddechrau drwy ddweud ‘da iawn’ i’r holl ddysgwyr sydd wedi gweithio’n galed i gwblhau arholiadau ac asesiadau eleni. Diolch enfawr i’r holl athrawon a darlithwyr hefyd, am eu holl ymdrechion i baratoi dysgwyr a’u cefnogi trwy gydol y flwyddyn academaidd. Rwy'n gwybod ei bod wedi parhau i fod yn daith anodd oherwydd effaith barhaus y pandemig, ac mae'n glod gwirioneddol i bawb dan sylw, am eu gwaith caled, eu hymroddiad a'u gwytnwch, ac am gefnogaeth rhieni, gofalwyr ac eraill hefyd.  

Wrth i ni barhau ar ein taith yn ôl i drefniadau cyn y pandemig, cafodd arholiadau ac asesiadau ffurfiol eu cynnal eto’r haf yma, gyda rhai newidiadau'n parhau i fod ar waith i roi rhywfaint o gymorth ychwanegol i ddysgwyr. Daeth y cymorth ychwanegol ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw, ynghyd ag agwedd gefnogol at raddio. 

Yn Cymwysterau Cymru, rydyn ni wedi gwneud sawl penderfyniad i sicrhau bod dysgwyr wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, ac mae'r penderfyniadau hyn wedi'u gwneud mewn partneriaeth ag eraill. Rydyn ni wedi parhau i weithio'n agos gyda CBAC, cyrff dyfarnu eraill, y sector addysg ehangach a Llywodraeth Cymru i gymryd y cam nesaf ar daith system gymwysterau Cymru yn ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig, tra'n parhau i ddarparu rhwyd ddiogelwch i ddysgwyr i gydnabod yr anawsterau a wynebwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o gwestiynau a phryderon wedi bod o hyd, felly yr haf yma, fel mewn blynyddoedd blaenorol, rydyn ni wedi gwahodd dysgwyr, athrawon, darlithwyr, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn yr arholiadau i rannu eu barn drwy gydol y cyfnod arholiadau ac asesu.  Cafwyd llawer iawn o adborth defnyddiol, a byddwn yn defnyddio hyn oherwydd ein bod wir eisiau dysgu o farn pawb.  

Cynnydd 

Mae cynnydd dysgwyr wedi bod yn flaenoriaeth i ni yn Cymwysterau Cymru.  I lawer o'r rhai sy'n cwblhau cymwysterau UG, Safon Uwch a chymwysterau lefel 3 eraill, y nod fydd symud ymlaen i brifysgol neu fathau eraill o addysg uwch. Efallai y bydd eraill yn awyddus i gael swydd i ddechrau ar eu gyrfaoedd, yn aml trwy ddechrau prentisiaeth, gan gydnabod gwerth ennill cyflog wrth iddyn nhw ddysgu gyda hyfforddiant yn y gwaith. Ar gyfer dysgwyr iau sy'n cwblhau eu cymwysterau TGAU a chymwysterau eraill, mae amrywiaeth eang o 'gamau nesaf' ar gael yn yr ysgol, yn y coleg, neu mewn dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau.  Mae'n foment allweddol ym mywydau'r unigolion hyn, gyda'r dewisiadau maen nhw’n eu gwneud nawr yn llywio eu dyfodol.  

Rwy'n deall yn iawn y gallai llawer o bobl ifanc fod yn teimlo pwysau i ddewis ac yna sicrhau'r canlyniadau angenrheidiol i ddilyn eu llwybr cynnydd.  Mae hyn bob amser yn anodd, ond peidiwch ag anghofio bod llawer o gyrsiau ac opsiynau eraill ar gael os bydd angen i chi ailystyried eich camau nesaf. Rwy’n gwybod y bydd pob ysgol a choleg ledled y wlad yno i gynghori a chefnogi pobl ifanc p'un a ydyn nhw am fynd drwy'r system glirio ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch, penderfynu ailsefyll rhai cymwysterau, neu ystyried llwybr hollol wahanol. Yn ogystal, mae llinellau cymorth ar gael i'r dysgwyr hynny a allai fod angen arweiniad a chymorth ychwanegol.  Fy nghyngor i bob dysgwr yw edrych yn fanwl ar yr holl opsiynau sydd ar gael, a cheisio cyngor o sawl ffynhonnell - mae llawer o ddewisiadau ar gael, ac mae'n iawn newid eich meddwl. 

Fel cyn Bennaeth coleg addysg bellach, byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn prentisiaeth i gysylltu â'u coleg addysg bellach lleol neu ddarparwr dysgu seiliedig ar waith arall i gael rhagor o wybodaeth, neu ewch i ddiwrnod agored yno, i gael gwybod mwy am opsiynau prentisiaethau. Mae ganddyn nhw gysylltiadau da â chyflogwyr ac felly byddan nhw’n gallu darparu cymorth ac arweiniad defnyddiol. 

Pob lwc i'n holl ddysgwyr 

Beth bynnag yw eich canlyniadau, llongyfarchiadau i chi ac i bob dysgwr arall am yr hyn rydych chi i gyd wedi llwyddo i'w gyflawni eleni.  Rwy’n gobeithio’n fawr y gallwch chi symud ymlaen i’r cyfeiriad o’ch dewis neu ddod o hyd i ddewisiadau eraill addas a fydd yn mynd â chi ar daith i ddyfodol cyffrous a llwyddiannus. 

I gael rhagor o gefnogaeth ac arweiniad, ewch i wefan Cymwysterau Cymru, neu: 

Cymru’n Gweithio  

Gyrfa Cymru   

Dewisiadau Clirio UCAS (Saesneg yn unig)