NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

18.07.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cerrig milltir o fewn y bartneriaeth rhwng Cymwysterau Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

I gefnogi a ffurfioli’r cydweithio rhwng Cymwysterau Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fe gafodd partneriaeth strategol ei ffurfio gydag ymrwymiad i ddatblygu cynllun gweithredu tair blynedd ar y cyd rhwng 2022-2025 er mwyn cynyddu ymrwymiad i'r Gymraeg.

Mae Cymwysterau Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sefydliadau allweddol ym maes addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru.   

Mae Cymwysterau Cymru yn gyfrifol am reoleiddio cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru ac mae ganddo bedwar man ffocws fel rhan o’i strategaeth Dewis i Bawb, i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.  

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfrifol am ddatblygu a chefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’n cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg.   

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Strategol Cymwysterau Cymru: 
“Rydw i mor falch o’r cydweithio a’r bartneriaeth lwyddiannus rhwng Cymwysterau Cymru a Coleg Cymraeg. 

“Gyda nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae’n hanfodol bod sefydliadau yn cydweithio i sicrhau cyfleoedd Cymraeg a dwyieithog ym myd addysg-ôl-16. Gyda’n gilydd mae’n bosib cyrraedd ein cynulleidfaoedd o ddysgwyr a gwneud gwahaniaeth. 

Dywedodd Dr Lowri Morgans, Uwch Reolwr Addysg Bellach a Phrentisiaethau  o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Mae sicrhau bod cymwysterau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn hollbwysig er mwyn sicrhau llwyddiant strategaeth addysg bellach a phrentisiaethau y Coleg sydd yn rhoi cyfleoedd astudio Cymraeg i ddysgwyr ar draws Cymru.

Rydym yn croesawu’r cydweithio gyda Cymwysterau Cymru yn fawr. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu ffurfioli’r berthynas trwy lansio partneriaeth strategol a’n bod yn cydweithio i weithredu cynllun ar y cyd i fynd i’r afael â’r heriau a manteisio ar gyfleoedd sy’n codi.”

Er mwyn cadw cofnod o’r cydweithio a’r cynnydd, mae adroddiad wedi ei gyhoeddi. Os oes gennych ddiddordeb gwybod mwy, darllenwch yr adroddiad.