Bydd cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu diwygio yn dilyn adolygiad manwl
Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru heddiw y bydd cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu diwygio wrth iddo gyhoeddi canfyddiadau adolygiad manwl, dwy flynedd o’r cymwysterau galwedigaethol ôl-16.
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru – sy'n ymdrin â phynciau cymhwyso rhif, cyfathrebu, llythrennedd digidol a chyflogadwyedd – wedi’u cynllunio i’w defnyddio mewn cyrsiau ôl-16 mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a dysgu oedolion yn y gymuned.
Maen nhw’n galluogi dysgwyr i ddatblygu ac arddangos y sgiliau sy'n hanfodol er mwyn ymsefydlu yn eu dewis yrfaoedd neu i wneud cynnydd ynddynt, ac ennill sgiliau gwerthfawr y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Y llynedd, dyfarnwyd mwy na 23,000 o dystysgrifau Sgiliau Hanfodol Cymru i ddysgwyr ledled Cymru fel rhan o brentisiaethau, rhaglenni addysg bellach ôl-16 a dysgu oedolion yn y gymuned.
Yn ystod yr adolygiad, cynhaliodd tîm Cymwysterau Cymru waith ymchwil helaeth a siarad â dysgwyr, darparwyr a chyflogwyr – ac roedd y mwyafrif eisiau diwygio. Fe wnaethant roi adborth am ba mor gyfredol a hydrin yw'r cymwysterau a'u hasesiadau.
Mae'r rheoleiddiwr bellach yn bwriadu diwygio tri o'r pedwar maes pwnc: cymhwyso rhif; llythrennedd digidol; cyfathrebu.
Bydd diwygio'n cael ei gyflwyno'n raddol a bydd y cymwysterau newydd ar gael i ganolfannau o 2028. Bydd Cymwysterau Cymru yn parhau i wrando ar ddysgwyr, cyflogwyr, a darparwyr dysgu, a bydd yn eu cynnwys yn y camau nesaf i sicrhau bod cynnwys a dulliau asesu’r cymwysterau diwygiedig hyn yn addas i’r diben.
Dywedodd Gareth Downey, Uwch Reolwr Cymwysterau: “Mae Sgiliau Hanfodol Cymru, sy’n rhan allweddol o brentisiaethau ac sy’n cael eu hastudio gan lawer mewn addysg bellach, yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen mewn addysg, gwaith a bywyd. Mae canfyddiadau ein hadolygiad yn dangos bod cryfderau i gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru presennol, ond bod materion y mae angen i ni roi sylw iddyn nhw yn y tymor byr a'r tymor hwy.
"Rydyn ni wedi gweithio gyda phartneriaid allweddol i fynd i'r afael â rhai materion ond mae'n amlwg bod angen diwygio yn y tymor hwy. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol i ddiwygio cymwysterau mewn cymhwyso rhif, cyfathrebu a llythrennedd digidol er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion dysgwyr, darparwyr a chyflogwyr yng Nghymru yn llawn."
Roedd y darparwr hyfforddiant ACT Training yn un o'r rhanddeiliaid yr ymgynghorodd Cymwysterau Cymru â nhw yn ystod y broses adolygu. Mae ganddyn nhw safleoedd yng Nghaerdydd, y Barri, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Aberdâr, Pont-y-pŵl, a Glynebwy.
Dywedodd Pennaeth Sgiliau a Datblygu Cwricwlwm ACT, Tracey Spiller: “Croesawodd ACT y cyfle i weithio gyda Cymwysterau Cymru a darparwyr hyfforddiant ac AB eraill sy’n darparu Sgiliau Hanfodol. Cafodd proses yr adolygiad ei chyfleu’n glir, a chawsom ein cynnwys ar bob cam. Roedden ni wir yn teimlo bod ein hadborth yn bwysig, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o'r camau nesaf."
Dywedodd Andrew Bond, Rheolwr Cwricwlwm Sgiliau a Phartneriaethau Coleg Pen-y-bont ar Ogwr: “Yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, rydyn ni’n credu bod cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth rymuso dysgwyr a thrawsnewid eu bywydau. Mae’r cymwysterau hyn yn darparu sylfaen gadarn mewn meysydd allweddol fel cyfathrebu, rhifedd, a llythrennedd digidol, sydd i gyd yn hanfodol ar gyfer twf personol, datblygiad gyrfa, a chymryd rhan weithredol mewn cymdeithas. Drwy roi’r sgiliau hanfodol hyn i ddysgwyr, rydyn ni’n eu helpu i feithrin hyder, cyflawni eu dyheadau, a gwella eu cyflogadwyedd, gan eu galluogi i wneud cyfraniadau ystyrlon i’w cymunedau a’r economi.”
Dysgwch fwy drwy ddarllen yr adroddiad llawn yma.