BLOG

Cyhoeddwyd:

02.10.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID

Bylchau cyrhaeddiad yn 2022

Pan gafodd arholiadau eu canslo yn 2021, roedd canlyniadau TGAU a Safon Uwch cenedlaethol yn uwch o gymharu â blynyddoedd cyn y pandemig. Felly, beth sydd wedi digwydd i’r bylchau cyrhaeddiad yn 2022?

Pan gafodd arholiadau eu canslo yn 2021, roedd canlyniadau TGAU a Safon Uwch cenedlaethol yn uwch o gymharu â blynyddoedd cyn y pandemig, a gwelwyd effeithiau amrywiol ar fylchau cyrhaeddiad.

Yn 2022, fel y cynlluniwyd, roedd y canlyniadau cenedlaethol unwaith eto yn uwch na rhai 2019, pan gynhaliwyd arholiadau ddiwethaf, ond yn is na rhai 2021, pan oedd athrawon yn gyfrifol am bennu graddau dysgwyr.

Felly, beth sydd wedi digwydd i’r bylchau cyrhaeddiad yn 2022?

Beth yw bylchau cyrhaeddiad?

Bylchau cyrhaeddiad yw’r gwahaniaethau rhwng canlyniadau grwpiau gwahanol o ddysgwyr. Fel arfer, maen nhw’n cael eu mynegi fel pwyntiau canran. Er enghraifft, mae’r bwlch cyrhaeddiad rhywedd yn cael ei gyfrifo trwy dynnu canlyniadau’r dysgwyr gwrywaidd o ganlyniadau dysgwyr benywaidd.

Beth oedd y bylchau cyrhaeddiad yn 2021?

O gymharu â 2019, roedd bylchau cyrhaeddiad 2021 ar y cyfan yn lletach ar A* ac A*-A ac yn gulach ar radd C (yng nghyd-destun canlyniadau cenedlaethol sy’n uwch ar y cyfan).

Beth am 2022?

Rydyn ni wedi dychwelyd at arholiadau ac asesiadau safonedig yn 2022.

O ystyried ein bod yn dychwelyd at arholiadau, bydd rhai yn meddwl tybed a fydd bylchau cyrhaeddiad 2022 yn debyg i rai 2019 (y tro diwethaf i ddysgwyr sefyll arholiadau)?

Mae sawl rheswm pam y gallai bylchau cyrhaeddiad 2022 fod yn wahanol i rai 2019:

  • Mae canlyniadau 2022 yn uwch na rhai 2019 - ’pan fo canlyniadau cenedlaethol yn wahanol, mae'n debygol y bydd bylchau cyrhaeddiad yn wahanol hefyd
  • Bydd effeithiau gwahanol y pandemig ar addysg wedi effeithio ar rai grwpiau dysgwyr yn fwy nag eraill.
  • Cafodd arholiadau 2022 eu haddasu er mwyn cefnogi dysgwyr ac i gydnabod yr amser dysgu ac addysgu a gollwyd – gallai rhai dysgwyr fod wedi perfformio’n well nag eraill mewn asesiadau sydd wedi’u haddasu
  • Ar lefel pwnc, gall bylchau cyrhaeddiad newid os ceir newidiadau sylweddol o ran y rhai sy’n cael cofrestru ar gyfer cymhwyster mewn blynyddoedd gwahanol.

Beth ydym ni’n ei wybod eisoes?

Ar ddiwrnod canlyniadau, gwnaethom ni gyfeirio at ddata JCQ ar y bwlch cyrhaeddiad rhywedd yn 2022 (pan gynhaliwyd arholiadau wedi’u haddasu) a sut yr oedd yn cymharu â blynyddoedd blaenorol.

O ran Safon Uwch, roedd y bwlch cyrhaeddiad rhywedd ar A* ac A*-A yn debyg i 2019, pan gynhaliwyd arholiadau ddiwethaf. Ar A*, cafodd dysgwyr gwrywaidd ganlyniadau ychydig yn well na dysgwyr benywaidd yn 2019 ac yn 2022, ond yn 2021, pan gafodd arholiadau eu canslo, cafodd dysgwyr benywaidd fwy o lwyddiant.

O ran TGAU, unwaith eto gwelwyd bod y bwlch cyrhaeddiad ar A*-A yn 2022 yn debyg i’r bwlch yn 2019. Ond ar radd C, roedd rhywbeth gwahanol wedi digwydd. Yn 2021, wrth i’r canlyniadau godi yn gyffredinol, roedd dysgwyr benywaidd yn parhau i gael gwell canlyniadau na dysgwyr gwrywaidd, ond roedd y bwlch rhyngddynt wedi culhau ychydig. Yn 2022, aeth y bwlch yn gulach fyth, i 7.1 pwynt canran.

Mae’n anodd gwybod yn union beth sydd wedi achosi’r newidiadau hyn, ond mae’n ddifyr gweld na wnaeth y bwlch cyrhaeddiad rhywedd ar radd C TGAU symud yn ôl tuag at ganlyniadau 2019 pan wnaeth arholiadau ddychwelyd yn 2022.  Gallai’r gwahaniaeth ar lefel TGAU a Safon Uwch fod yn gysylltiedig â dysgwyr yn sefyll rhai TGAU yn gynnar cyn haf
Blwyddyn 11, rhywbeth sydd ddim yn digwydd â’r rhan fwyaf o gymwysterau Safon Uwch.

Pryd gaf i ddysgu mwy?

Byddwn yn cyhoeddi’r ystadegau swyddogol ar gydraddoldeb ym mis Hydref, a byddwn yn disgrifio’r hyn sydd wedi digwydd o ran bylchau cyrhaeddiad eraill yn 2022. Rydyn ni’n bwriadu cynnwys dadansoddiad sy’n defnyddio mynegai amddifadedd lluosog Cymru (WIMD).

 

Gan Tom Anderson, Pennaeth Ymchwil ac Ystadegau