Cadarnhau’r dull o ddynodi cymwysterau 14-16
Heddiw (dydd Mawrth 12 Tachwedd) mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau ei benderfyniadau ar y dull awgrymedig o ddynodi cymwysterau 14-16 i gyd-fynd â'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol 14-16.
Daw'r penderfyniad hwn yn dilyn ymgynghoriad tri mis gyda rhanddeiliaid addysg yng ngwanwyn 2024. Mae'r dull gweithredu diwygiedig yn cyd-fynd â phenderfyniadau polisi blaenorol a bydd yn sicrhau bod yr holl gymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yn cyd-fynd â'n tair egwyddor arweiniol lle bynnag y bo modd:
- dylai cymwysterau ymwneud â nodau a dibenion y Cwricwlwm newydd i Gymru a'u cefnogi
- dylai cymwysterau fod ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg
- dylai cymwysterau gyfrannu at gynnig cydlynol a chynhwysol
Gallwch ddarllen adroddiad manwl ar y penderfyniad hwn yma, ynghyd â chrynodeb o’r ymatebion i'r ymgynghoriad yma. Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi asesiad effaith integredig cysylltiedig mewn perthynas â'n polisi diwygiedig, y gallwch ei ddarllen yma.
Er mwyn lleihau'r risg o gael gwared ar unrhyw gymwysterau sy'n diwallu anghenion lleiafrif bach o ddysgwyr, byddwn yn caniatáu i gyrff dyfarnu wneud cais am eithriad i'n hegwyddorion arweiniol ar y sail eu bod yn gallu bodloni un o gyfres gyfyngedig o feini prawf.
Beth yw dynodi?
Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, rydyn ni’n penderfynu pa gymwysterau sy'n gymwys i'w defnyddio ar gyrsiau addysg neu hyfforddiant a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed.
Rydyn ni’n gwneud hyn mewn dwy ffordd:
- drwy gymeradwyo cymwysterau sydd wedi’u datblygu’n benodol i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru
- drwy ganiatáu i gymwysterau sydd wedi’u datblygu’n benodol ar gyfer dysgwyr y tu allan i Gymru gael eu dynodi i'w defnyddio yng Nghymru
Gellir dod o hyd i ganllawiau dynodi ar gyfer cyrff dyfarnu yn ein Llawlyfr Dynodi.
Y gyfres Cymwysterau Cenedlaethol
Mae Cymwysterau Cenedlaethol yn cael eu cyflwyno ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed dros dair blynedd o fis Medi 2025. Bydd y Cymwysterau Cenedlaethol yn disodli'r cymwysterau cymeradwy a dynodedig presennol sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru.
Mae'r gyfres newydd hon o gymwysterau wedi'i chynllunio'n benodol i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru sy'n cael eu haddysgu gan ddilyn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd Cymwysterau Cenedlaethol yn rhoi dewis eang i ddysgwyr Cymru o gymwysterau cynhwysol, dwyieithog sy’n rhychwantu Lefel Mynediad i Lefel 2, ac sydd ar gael mewn amrywiaeth o bynciau cyffredinol a chysylltiedig â gwaith. Mae'r gyfres newydd yn cynnwys:
- TGAU
- TAAU
- Cymwysterau Sylfaen
- Y Gyfres Sgiliau
Unwaith y bydd y gweithredu graddol hwn wedi’i gwblhau (Medi 2027), bwriedir i’r Cymwysterau Cenedlaethol ffurfio’r rhan fwyaf o’r cymwysterau a gynigir i’w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru.
Beth am gymwysterau nad ydynt yn dod o dan y gyfres Cymwysterau Cenedlaethol?
Mae’r cymwysterau sydd ar gael yn y gyfres Cymwysterau Cenedlaethol wedi’u curadu’n ofalus ar ôl ymgynghori’n helaeth ag arweinwyr ysgol, athrawon, arbenigwyr pwnc, dysgwyr, cyrff dyfarnu, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill.
Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod y gall fod angen i ddysgwyr yng Nghymru ddilyn cymwysterau nad ydynt wedi'u cynnwys yn y gyfres Cymwysterau Cenedlaethol, mewn rhai amgylchiadau penodol.
Felly, rydyn ni’n rhagweld dynodi rhai cymwysterau nad ydynt efallai wedi'u gwneud yn benodol ar gyfer Cymru, ond a fydd yn ategu'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol.
Ein polisi diwygiedig a’n meini prawf eithrio
Yn sgil cyflwyno'r Cymwysterau Cenedlaethol, rydyn ni wedi diwygio ein polisi dynodi.
Gellir dynodi cymwysterau trwy ddau lwybr:
- Os yw cymhwyster yn bodloni ein hegwyddorion arweiniol ac nad yw’n cael ei ystyried yr un fath neu’n debyg i Gymhwyster Cenedlaethol cymeradwy, bydd yn gymwys i’w ddynodi
- Os nad yw cymhwyster yn bodloni ein hegwyddorion arweiniol ac nad yw’n cael ei ystyried yr un fath neu’n debyg i Gymhwyster Cenedlaethol cymeradwy, ond ei fod yn bodloni un o’n meini prawf eithrio, bydd yn gymwys i’w ddynodi
Mae ein polisi dynodi diwygiedig yn amlinellu pum maen prawf eithrio i'n hegwyddorion arweiniol:
Eithriad 1: Mae corff dyfarnu wedi dangos yn llwyddiannus y byddai methu â dynodi ffurf ar gymhwyster yn gymwys i'w ddefnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus yn arwain at ragfarn neu effaith anghymesur ar grŵp o ddysgwyr sy'n rhannu nodwedd warchodedig fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Eithriad 2: Mae corff dyfarnu wedi cyflwyno ffurf ar gymhwyster i'w ddynodi ac mae'r cymhwyster hwnnw ar Lefel 3 neu’n uwch ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau (FfCChC). Yn unol â'n gofynion dynodi ar gyfer pob cymhwyster, mae’n rhaid i gorff dyfarnu ddangos yn llwyddiannus bod yna alw am y cymhwyster ymysg ymgeiswyr cyn-16 oed yng Nghymru.
Eithriad 3: Mae corff dyfarnu wedi cyflwyno cymhwyster TGAU iaith ryngwladol i’w ddynodi mewn iaith ryngwladol nad yw ar gael fel Cymhwyster Cenedlaethol 14-16 cymeradwy.
Eithriad 4: Mae corff dyfarnu wedi cyflwyno cymhwyster cerddoriaeth graddedig i’w Ddynodi nad yw ar gael fel Cymhwyster Cenedlaethol 14-16 cymeradwy.
Eithriad 5: Mae corff dyfarnu wedi cyflwyno cymhwyster technegol/galwedigaethol i’w ddynodi a bydd y cymhwyster hwnnw'n cael ei gyflwyno i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed mewn sefydliad addysg bellach.
Gwneud penderfyniadau dynodi
Pan fydd corff dyfarnu yn cyflwyno cymhwyster i'w ddynodi, byddwn yn defnyddio'r broses benderfynu ganlynol wrth ystyried pa gymwysterau y gellir eu dynodi:
Byddwn yn cynnal adolygiad tebyg/yr un fath o'r cymwysterau dynodedig presennol yn unol â thair ton y Cymwysterau Cenedlaethol sy'n cael eu cyflwyno a byddwn yn cyhoeddi manylion y cymwysterau hynny sy'n cael eu diddymu ar ein gwefan.
Ceir rhagor o fanylion am yr amserlen tebyg/yr un fath ar gyfer cymwysterau sydd wedi’u dynodi ar hyn o bryd yn Atodiad B yr Adroddiad Penderfyniadau.