NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

19.08.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cadeirydd Newydd Cymwysterau Cymru

Mae Cymwysterau Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad Paul Bevan yn Gadeirydd newydd ei Fwrdd, yn weithredol o 1 Hydref 2025.

Bydd Paul yn olynu David Jones OBE y daw ei gyfnod yn Gadeirydd i ben ddiwedd mis Medi.

Mae Paul yn dod â chyfoeth o brofiad o fewn y sector addysg, gyda hanes o lwyddiant mewn arweinyddiaeth, trawsnewid sefydliadol, a datblygiad ar lefel bwrdd ar draws sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Ymhlith ei gyflawniadau nodedig y mae arwain rhaglen o newid sylweddol ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion a thrawsnewid Cyfarwyddiaeth Weithredol yng Nghrŵp Llandrillo Menai.

Yn ogystal â’i arbenigedd proffesiynol, mae Paul yn weithgar yn y sectorau addysg a gwirfoddol yng Nghymru. Mae’n gwirfoddoli ar fyrddau Prifysgol Aberystwyth a Chyngor ar Bopeth Sir y Fflint, ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Cymdeithas Cerbydau Trydan (EVA) Cymru. Mae Paul yn siaradwr Cymraeg rhugl ac felly’n dod â gwerthfawrogiad cadarn a dealltwriaeth ddofn o’r iaith a diwylliant Cymraeg i’r rôl.

Wrth i ni groesawu Paul i’w rôl newydd, edrychwn ymlaen at adeiladu ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd gan David ac at barhau i hyrwyddo gwaith Cymwysterau Cymru.

Yn olaf, hoffem ddiolch i David am ei arweinyddiaeth ragorol a’r cyfraniadau sylweddol y mae wedi’u gwneud drwy gydol ei gyfnod yn Gadeirydd. Estynnwn ein dymuniadau gorau a phob hwyl iddo ar gyfer y dyfodol.