Canllaw i ddysgwyr ar arholiadau ac asesiadau 2023-24
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi Canllaw i Ddysgwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023-24, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddysgwyr wrth iddyn nhw baratoi i sefyll eu harholiadau a'u hasesiadau yr haf hwn.
Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gallu bod yn gyfnod prysur, a bydd gan lawer gwestiynau am y trefniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau eleni. Dyna pam rydyn ni wedi creu canllaw wedi’i ddiweddaru ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, sydd wedi’i gynllunio i helpu dysgwyr i ddeall sut bydd eu harholiadau a’u hasesiadau’n gweithio. Mae'r canllaw’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys:
- dyddiadau pwysig i’w cofio
- gwybodaeth am raddio
- gwybodaeth am y camau nesaf ar ôl diwrnod canlyniadau
- dolenni i wefannau defnyddiol lle gall dysgwyr gael awgrymiadau adolygu, canllawiau lles a chymorth arall.
Ein gobaith yw y bydd dysgwyr yng Nghymru sy'n sefyll cymwysterau eleni yn gweld bod y canllaw yma’n adnodd defnyddiol.
Mae pob un ohonon ni yn Cymwysterau Cymru yn dymuno pob lwc i chi yn eich arholiadau a’ch asesiadau eleni.
Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth a darllen y canllaw yma.