NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

22.10.25

DYSGWYR
CANOLFANNAU
ADDYSGWYR

Canllaw i ddysgwyr ar arholiadau ac asesiadau 2025-2026

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar gyfer arholiadau ac asesiadau, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddysgwyr wrth iddyn nhw baratoi i sefyll eu harholiadau a'u hasesiadau.

Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn gallu bod yn gyfnod prysur, a bydd gan lawer gwestiynau am y trefniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau eleni. Dyna pam rydyn ni wedi creu canllaw wedi’i ddiweddaru ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, sydd wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr i ddeall sut bydd eu harholiadau a’u hasesiadau’n gweithio.

Mae'r canllaw’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys:   

  • dyddiadau pwysig i’w cofio  

  • gwybodaeth am raddio   

  • gwybodaeth am y camau nesaf ar ôl diwrnod canlyniadau  

  • dolenni i wefannau defnyddiol lle gall dysgwyr gael awgrymiadau adolygu, canllawiau lles a chymorth arall.  

Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn ddefnyddiol i chi wrth i chi gwblhau eich cymwysterau.  

Rydyn ni i gyd yn Cymwysterau Cymru yn dymuno pob lwc i chi yn eich arholiadau a’ch asesiadau eleni.  

Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth a darllen y canllaw yma