NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

23.08.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR

Canlyniadau BTEC a Chymwysterau Technegol Caergrawnt

Mae Cymwysterau Cymru yn ymwybodol o oedi wrth gyhoeddi rhai canlyniadau BTEC Pearson a Chymwysterau Technegol Caergrawnt Lefel 3 OCR ac yn deall yr effaith y mae hyn yn ei chael ar ddysgwyr.

Mae Cymwysterau Cymru'n gweithio'n agos gyda'r ddau gorff dyfarnu a'n cyd-reoleiddwyr i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud fel bod dysgwyr yn derbyn eu canlyniadau cyn gynted â phosibl.

Rydyn ni’n derbyn diweddariadau dyddiol am y cynnydd sy'n cael ei wneud. Y flaenoriaeth yw cyhoeddi canlyniadau i ddysgwyr yr haf hwn er mwyn eu galluogi i symud ymlaen i gam nesaf eu dysgu neu i gael gwaith. Mae yna lawer o resymau pam efallai na fydd canlyniadau ar gael i ddysgwyr pan fyddan nhw'n eu disgwyl. Byddwn ni’n gweithio gydag ysgolion, colegau a chyrff dyfarnu i ddeall achos sylfaenol yr oedi yma, ac yn chwilio am ffyrdd o’i ddileu yn y dyfodol.