NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

19.08.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR

Cefnogaeth barhaus i ddysgwyr sy'n astudio cymwysterau sydd wedi’u creu i Gymru

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau UG a Safon Uwch eleni, mae Cymwysterau Cymru yn cadarnhau’r trefniadau ar gyfer y cymwysterau hynny a chymwysterau ôl-16 eraill yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau UG a Safon Uwch eleni, mae Cymwysterau Cymru yn cadarnhau’r trefniadau ar gyfer y cymwysterau hynny a chymwysterau ôl-16 eraill yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Ym mis Mai, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai gwybodaeth ymlaen llaw yn cael ei darparu ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch sydd wedi’u creu i Gymru sy'n dechrau ym mis Medi. Ni fydd unrhyw addasiadau TGAU, UG a Safon Uwch blaenorol yn berthnasol mwyach ym mlwyddyn academaidd 2022/23.

Cyhoeddodd CBAC wybodaeth ymlaen llaw ar gyfer cyfres arholiadau'r hydref i ysgolion a cholegau yng Nghymru fis Mehefin. Bydd rhagor o wybodaeth ymlaen llaw yn cael ei rhyddhau ar gyfer cyfres arholiadau Ionawr 2023 yn ystod tymor yr hydref, ac ar gyfer cyfres arholiadau haf 2023 yn ystod tymor y gwanwyn.

Bwriad gwybodaeth ymlaen llaw yw cefnogi dysgwyr trwy roi syniad o'r testunau, themâu, testunau neu gynnwys arall y gallan nhw ei ddisgwyl yn eu harholiadau, gyda'r prif nod o gefnogi eu gwaith paratoi.

Dywedodd David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru:

“Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi y bydd peth help i ddysgwyr yn eu paratoadau terfynol ar gyfer arholiadau drwy wybodaeth ymlaen llaw am bynciau fydd yn cael sylw, oherwydd rydyn ni’n gwybod y bydd y pandemig yn cael effaith hirdymor ar ddysgwyr. Felly, rydyn ni am adlewyrchu hyn yn y trefniadau ar gyfer y flwyddyn nesaf.”

Mae’r rhan fwyaf o gymwysterau yn cael eu cyflwyno dros ddwy flynedd, sy'n golygu bod rhai dysgwyr eisoes wedi profi aflonyddwch wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cymwysterau a fydd yn cael eu cwblhau yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23.

Nid yw gwybodaeth ymlaen llaw yn bosibl ar gyfer y Dystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru), felly bydd llawer o'r addasiadau presennol ar gyfer y cymhwyster hwnnw yn parhau i'r flwyddyn nesaf.

Rydyn ni hefyd yn rhagweld y gallai gwybodaeth ymlaen llaw fod yn briodol ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol sydd wedi’u creu i Gymru.

Er na fydd addasiadau presennol yn parhau i'r flwyddyn academaidd nesaf, bydd gwybodaeth ymlaen llaw yn cael ei darparu i gefnogi dysgwyr. Mae'r cam hwn yn arwydd o'r cam nesaf ar daith system gymwysterau Cymru yn ôl i'r trefniadau asesu oedd ar waith cyn y pandemig.