BLOG

Cyhoeddwyd:

24.04.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cefnogi dysgwyr yng Nghymru wrth i ni barhau i ddychwelyd i drefniadau arholi cyn y pandemig

Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio Cymwysterau Cymru, sy’n sôn am y cymorth ychwanegol sydd ar gael i ddysgwyr sy'n sefyll arholiadau ac asesiadau TGAU, UG a Safon Uwch yr haf yma.

Dros y tair blynedd diwethaf mae pobl ifanc wedi byw trwy gyfnodau hynod drafferthus ar adegau hanfodol yn eu datblygiad personol ac addysgol. Mae COVID-19 wedi effeithio’n fawr ar addysg a’r system gymwysterau, ac roedd bob amser yn mynd i gymryd amser i’r system ailadfer.

Yn 2022, fe wnaeth dysgwyr yng Nghymru sefyll arholiadau ac asesiadau ffurfiol am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig, gyda gofynion asesu cymwysterau yn cael eu haddasu i gyfrif am yr aflonyddwch i addysg pobl ifanc yn sgil COVID-19.

Yr haf yma, mae’r daith yn ôl i drefniadau TGAU, UG a Safon Uwch cyn y pandemig yn parhau.

Fel y gwyddoch, bydd arholiadau’n cael eu cynnal eto yn ystod mis Mai a mis Mehefin, gydag asesiadau di-arholiad eisoes wedi’u cwblhau mewn nifer o bynciau.

Mae rhai newidiadau wedi’u gwneud er mwyn darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr sy’n sefyll arholiadau ffurfiol ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw, ynghyd â dull graddio tebyg i’r un a ddefnyddiwyd yn haf 2022.

Bwriad gwybodaeth ymlaen llaw yw cefnogi dysgwyr trwy roi syniad iddyn nhw o'r meysydd, themâu, testunau neu gynnwys arall y gallan nhw ei ddisgwyl yn eu harholiadau. Mae hyn yn golygu y bydd ganddyn nhw rywfaint o wybodaeth am yr hyn a gaiff ei asesu cyn i’r arholiadau gael eu cynnal, ac y byddan nhw’n gallu canolbwyntio eu gwaith adolygu yn sgil hynny.

Bydd y wybodaeth a ddarperir, wrth gwrs, yn wahanol ar gyfer pob pwnc, ond dylai eu helpu i baratoi ar gyfer eu harholiadau TGAU, UG a Safon Uwch.

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd y wybodaeth ymlaen llaw yn cynnwys popeth sy'n mynd i gael ei asesu. Efallai y bydd rhai cwestiynau arholiad yn gofyn am wybodaeth ychwanegol. Mae hynny'n golygu y dylai dysgwyr adolygu cynnwys y cwrs cyfan, gan ddefnyddio'r wybodaeth ymlaen llaw i ganolbwyntio eu gwaith adolygu.

Mae CBAC, sy'n dyfarnu cymwysterau ac yn cael ei reoleiddio gan Cymwysterau Cymru, wedi cyhoeddi’r wybodaeth ymlaen llaw sy'n ymwneud ag arholiadau haf 2023 ar ei wefan. Os oes gan ddysgwyr unrhyw gwestiynau am wybodaeth ymlaen llaw, dylen nhw siarad gyda'u hathrawon neu ddarlithwyr.

Un peth i'w nodi yw nad yw gwybodaeth ymlaen llaw yn bosibl ar gyfer cymwysterau'r Dystysgrif Her Sgiliau. Ond, mae newidiadau parhaol wedi’u gwneud i’r cymwysterau hyn fel na fydd angen i ddysgwyr gwblhau cymaint o heriau ag yr oedd disgwyl iddyn nhw wneud cyn y pandemig.

Ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch sy’n cael eu darparu gan CBAC, bydd y canlyniadau ryw hanner ffordd rhwng rhai a ddyfarnwyd yn 2019 (y flwyddyn olaf cyn y pandemig) a 2022 (y flwyddyn gyntaf i ddysgwyr sefyll arholiadau wrth i ni ddod allan o’r pandemig). Mae hyn yn golygu, pan fydd CBAC yn dyfarnu graddau, y bydd y broses yn parhau i roi rhywfaint o help ychwanegol i ddysgwyr - rhwyd ​​ddiogelwch -  wrth i ni gymryd y cam nesaf ar y daith yn ôl i ganlyniadau cyn y pandemig.

Mae hefyd yn golygu bod canlyniadau, ar gyfer pob pwnc, yn debygol o fod yn uwch nag oedden nhw yn 2019, ac yn is nag oedden nhw yn 2022.

Mae pawb yn gwybod y gall paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau fod yn gyfnod anodd i ddysgwyr, eu hysgol neu goleg. Gall hefyd fod yn heriol i'w rhieni a'r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw.

Mae’n werth cofio bod pawb sy’n ymwneud â goruchwylio’r broses arholiadau – ysgolion, colegau, CBAC a Cymwysterau Cymru – yn brysur yn paratoi ar gyfer yr wythnosau a’r misoedd nesaf fel y gall popeth redeg mor ddidrafferth â phosibl.

Os wyt ti’n ddysgwr sy’n paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau, yna hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddymuno’r gorau i chi i gyd. Paid ag anghofio bod amrywiaeth o gymorth arall ar gael i ti, ac mae'r manylion ar ein gwefan.

Lefel Nesa
Cer draw i hwb cynnwys Lefel Nesa lle doi di o hyd i gyngor adolygu, canllawiau’n ymwneud â llesiant a gwybodaeth i’th helpu di drwy dymor arholiadau ac asesiadau 2022-23. Gelli di gael gafael ar ganllawiau adolygu a chyn-bapurau gan CBAC, yn ogystal â chymorth ymgeisio UCAS a chyngor ar lesiant.

CBAC
Mae gan CBAC dudalen we bwrpasol lle mae modd i ti gael gwybodaeth am sut mae arholiadau'n gweithio, sut i fynd ati i ateb cwestiynau arholiad ac awgrymiadau ar gyfer gofalu am dy lesiant. Hefyd, fe weli di lawer o adnoddau adolygu defnyddiol.

Y Comisiynydd Plant
Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru lawer o wybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau cymorth i bobl ifanc, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl ac emosiynol.

Gyrfa Cymru
Mae gan Gyrfa Cymru lawer o wybodaeth ddefnyddiol am gymwysterau a hyfforddiant.

Mind Cymru
Mae Mind Cymru yn elusen iechyd meddwl sefydledig sy'n cynnig amrywiaeth o gymorth llesiant. Mae Mind yno i ti os wyt ti'n gweld pethau'n anodd. Mae modd i ti gysylltu i gael cyngor a chymorth cyfrinachol.