BLOG

Cyhoeddwyd:

23.05.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Codi'r llen ar y cymhwyster TGAU Drama newydd

Sarah Watson, Rheolwr Cymwysterau, sy’n trafod y newidiadau sydd i ddod i asesu yn y cymhwyster TGAU newydd mewn drama ac yn ystyried sut y bydd y cymhwyster newydd yn adeiladu ar lwyddiannau'r TGAU presennol.

Sarah Watson, Rheolwr Cymwysterau
Sarah Watson, Rheolwr Cymwysterau

Ym mis Medi 2025, bydd rhai newidiadau ffres a chyffrous yn cael eu cyflwyno i’r cymhwyster TGAU Drama newydd. Er ei fod yn adeiladu ar gryfderau'r cymhwyster presennol, mae wedi'i ailgynllunio'n feddylgar i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. 

Bydd y cymhwyster TGAU wedi'i ddiweddaru yn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau ar gyfer bywyd a dysgu yn y dyfodol, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu, creadigrwydd a hyder.

Beth sy'n newydd yn y cymhwyster TGAU Drama?

Un o'r diweddariadau mwyaf arloesol yw cyflwyno asesiad ar y sgrin yn lle arholiad ysgrifenedig traddodiadol. Mae'r dull hwn yn caniatáu i ddysgwyr wylio ac ymateb yn uniongyrchol i berfformiadau wedi'u recordio, gan wneud yr asesiad yn fwy gafaelgar a hygyrch. Gyda nodweddion hygyrchedd adeiledig, mae'r fformat newydd yn sicrhau profiad mwy cynhwysol i bob dysgwr. 

Gan ddisodli'r adolygiad theatr fyw blaenorol, bydd yr arholiad yn cynnwys cwestiynau ar berfformiad nas gwelwyd o’r blaen, gyda'r nod o roi ffordd ddilys o asesu dealltwriaeth a gallu dysgwyr i gymhwyso'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu. Mae'r dull hwn hefyd yn annog ysgolion i archwilio ystod eang o weithiau dramatig trwy gydol y cwrs.

Beth sy'n aros yr un fath? 

Cydbwyso gwybodaeth a sgiliau ymarferol

Er bod yr arholiad digidol yn arloesol, mae'r cymhwyster yn parhau i roi pwyslais cryf ar ddysgu ymarferol. 

Mae'r unedau Perfformio a Dyfeisio yn cyfrif am 70% o'r cymhwyster i gyd, gyda sgiliau perfformio wedi'u pwysoli'n uwch nag o'r blaen. Mae'r asesiadau'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau creadigol a pherfformio dysgwyr - gan adlewyrchu pwyslais y Cwricwlwm i Gymru ar greadigrwydd dan arweiniad y dysgwyr. 

Anogir dysgwyr hefyd i fyfyrio ar eu gwaith eu hunain a'i fireinio, gan ddyfnhau eu dealltwriaeth o'r broses greadigol. 

Cwricwlwm ehangach, mwy cynhwysol

Yn ddiweddar, mae CBAC wedi diweddaru'r testunau gosod ar gyfer y cymhwyster TGAU drama presennol i gynnwys dramodwyr benywaidd, awduron o Gymru a lleisiau o gefndiroedd Du ac ethnig lleiafrifol. 

Bydd y testunau hyn yn parhau i gael eu defnyddio o fis Medi 2025, gan roi'r hyblygrwydd i ysgolion ddewis dramâu sy'n adlewyrchu profiadau, diddordebau ac anghenion amrywiol eu dysgwyr. Bydd y dull hwn hefyd yn cefnogi athrawon drama wrth iddynt symud i'r cymhwyster newydd. 

Cymorth i athrawon

Er mwyn helpu athrawon i baratoi ar gyfer y newidiadau, bydd CBAC yn rhyddhau cyfres o adnoddau digidol dwyieithog yn nhymor yr haf. 

Mae cyfleoedd dysgu proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar-lein wedi'u cynnig i gefnogi'r broses o gyflwyno’r fanyleb newydd yn effeithiol. Gallwch chi weld briff y manyleb TGAU Drama yma.  

Edrych ymlaen

Mae'r fanyleb TGAU Drama newydd yn addo profiad dysgu cyfoethog, cynhwysol a gafaelgar. Bydd cyfuno arloesedd digidol â chreadigrwydd ymarferol yn sicrhau bod drama yn parhau i fod yn bwnc bywiog a pherthnasol, gan feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent o Gymru.