Cofleidio amlieithrwydd yng Nghymru: cyflwyno'r TGAU newydd mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg
Laura Griffiths, Rheolwr Cymwysterau, sy’n rhoi cyflwyniad i’r TGAU newydd mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg a'r hyn y bydd hyn yn ei olygu i athrawon a dysgwyr o fis Medi ymlaen.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi pwyslais cryf ar amlieithrwydd, gan annog dysgwyr i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol. Mae'r dull hwn yn meithrin cyfathrebu effeithiol a dealltwriaeth ddiwylliannol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer byd cynyddol amrywiol, amlieithog a byd-eang.
Cyd-destunau gafaelgar a pherthnasol
Er mwyn sicrhau bod y cymwysterau TGAU newydd mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg yn afaelgar, mae'r cynnwys yn pwysleisio iaith bob dydd, geirfa hanfodol a gramadeg. Mae'r cymwysterau hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau darllen, gwrando, siarad ac ysgrifennu ar draws tair thema eang sy'n berthnasol i bobl ifanc. Dyma nhw:
- iaith ar gyfer hamdden a lles
- iaith ar gyfer teithio
- iaith ar gyfer astudio a gweithio
Mae'r themâu cwmpasog hyn yn cynnig cyd-destunau bywyd go iawn ar gyfer datblygu sgiliau iaith ar gyfer bywyd, dysgu pellach a gwaith tra hefyd yn galluogi cyfleoedd eang i ymwneud ag agweddau allweddol ar y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys y pedwar diben a themâu trawsgwricwlaidd.
Newidiadau allweddol yn y TGAU newydd
Mae'r TGAU newydd mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg sydd i’w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025, yn cyflwyno sawl newid allweddol i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru.
Asesiad llafaredd
Ochr yn ochr â thrafodaeth, sgwrs a chwarae rôl (sydd i gyd yn ymddangos yn y cymwysterau presennol), mae'r asesiadau llafaredd yn y TGAU newydd hefyd yn cynnwys cyflwyniad. Gall dysgwyr baratoi eu cyflwyniad ymlaen llaw ac maen nhw’n gallu dewis pwnc o'u dewis yn seiliedig ar eu diddordebau unigol.
Cynnwys llenyddiaeth
Mae astudio iaith a llenyddiaeth gyda'i gilydd yn helpu dysgwyr i ddatgloi pŵer llenyddiaeth a gosod astudiaeth o iaith yn ei gyd-destun. Mae’n eu hannog nhw i ymgysylltu'n adeiladol â thestunau, syniadau a safbwyntiau gwahanol. Mae llenyddiaeth felly wedi'i hintegreiddio i'r cymwysterau newydd mewn ieithoedd rhyngwladol.
Bydd dysgwyr yn cael cyfle i astudio darn o lenyddiaeth o amrywiaeth o ffurfiau, fel stori fer, nofel graffig neu sgript ffilm, a thrwy hynny annog trosglwyddo sgiliau o un iaith i'r llall a meithrin meddylfryd amlieithog.
Mae cynnwys llenyddiaeth yn cyd-fynd â'r cymwysterau eraill ym maes dysgu a phrofiad ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (Saesneg a Chymraeg) ac mae'n gyson â’r Cwricwlwm i Gymru, lle mae iaith a llenyddiaeth yn agweddau canolog.
Tynnu haenau
Yn wahanol i'r TGAU presennol mewn ieithoedd rhyngwladol, ni fydd y cymwysterau TGAU newydd yn cael eu haenu. Mae hyn yn caniatáu i ddysgwyr gael mynediad i'r ystod lawn o farciau a graddau, a thrwy hynny osgoi capio cyflawniad dysgwr yn seiliedig ar yr haen maen nhw wedi'u cofrestru ar ei chyfer.
Newidiadau i asesiadau di-arholiad
Bydd y TGAU newydd yn cynnwys dau asesiad di-arholiad, cynnydd o'r TGAU presennol sydd ag un yn unig. O ganlyniad, bydd yr asesiadau di-arholiad yn cyfrannu 45% o'r radd gyffredinol yn y TGAU newydd (o'i gymharu â 25% yn y cymhwyster presennol). Y ddau asesiad di-arholiad yw:
- Uned 1 - asesiad llafaredd: Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad wedi'i baratoi ymlaen llaw ar bwnc o ddewis y dysgwr, yn ogystal ag asesiadau darllen yn uchel, chwarae rôl a sgwrs.
- Uned 2 - darllen ac ysgrifennu: Mae'r uned hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr astudio darn byr o waith (nofel graffig, stori fer, sgript ffilm, neu nofel) yn Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg. Mae hyn yn ennyn diddordeb dysgwyr mewn iaith trwy lenyddiaeth, gan gyd-fynd â'r datganiad o’r 'hyn sy'n bwysig' yn y cwricwlwm sef bod llenyddiaeth yn tanio dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd. Mae'r uned hon yn rhoi hyblygrwydd a rhyddid i ganolfannau ddewis gweithiau llenyddol addas, gan gynnwys gwahanol weithiau ar gyfer gwahanol grwpiau o ddysgwyr.
Cymorth i ganolfannau
Mae amrywiaeth eang o gymorth ar gael i athrawon wrth iddyn nhw baratoi i gyflwyno'r cymwysterau ieithoedd rhyngwladol newydd o fis Medi 2025.
Mae CBAC eisoes wedi cyflwyno nifer o ddigwyddiadau 'paratoi i addysgu', yn ogystal â sesiynau briffio manylebau pynciau penodol. Gallwch weld recordiadau o'r sesiynau briffio hyn yma. Mae CBAC hefyd wedi lansio ei wefan adnoddau digidol newydd a gallwch ddod o hyd i fanylion am hyn, ynghyd â'r amserlen gyhoeddi, yma.