NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

20.05.22

DYSGWYR
ADDYSGWYR

Cofrestriadau dros dro ar gyfer cyfres arholiadau Haf 2022

Mae ystadegau swyddogol ar y nifer dros dro o gofrestriadau arholiadau yng Nghymru ar gyfer cyfres arholiadau Haf 2022 wedi cael eu rhyddhau.

Dyma'r gyfres haf gyntaf lle mae dysgwyr yn sefyll arholiadau TGAU, UG a Safon Uwch, sy’n cael eu hasesu’n genedlaethol, ers 2019. 

Mae'r ystadegau'n dangos bod y cofrestriadau ar gyfer cymwysterau TGAU yn is na'r rhai a gofrestrwyd ar gyfer haf 2021 – pan nad oedd dysgwyr yn cael eu hasesu’n genedlaethol. Fodd bynnag, o'i gymharu â 2019, mae nifer y cofrestriadau TGAU yn 2022 wedi cynyddu. Er mai dysgwyr Blwyddyn 11 yw'r rhai mwyaf tebygol o gofrestru ar gyfer TGAU eleni, mae gostyngiad wedi bod yn nifer y cofrestriadau o’r garfan hon o gymharu â llynedd. Bu cynnydd bach yn nifer y cofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 10 eleni o'i gymharu â'r haf diwethaf, ond mae nifer y cofrestriadau ym Mlwyddyn 12 neu'n uwch wedi gostwng. 

Ar gyfer Safon UG, mae llai o gofrestriadau nag yn haf 2021 a 2019. Mae nifer y cofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 12 yn sylweddol uwch nag yn 2019, ond bu gostyngiad parhaus yn nifer y cofrestriadau gan ddysgwyr Blwyddyn 13 ar gyfer Safon UG. 

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae nifer y dysgwyr a gofrestrwyd ar gyfer Safon Uwch wedi cynyddu, wedi'i helpu'n rhannol gan y nifer ychwanegol o gofrestriadau Blwyddyn 13 eleni. Mae gostyngiad yn nifer y cofrestriadau o Flwyddyn 14 ac uwch o’i gymharu â’r haf diwethaf. 

Am wybodaeth fanylach, darllena ein hadroddiad llawn a dymunwn 'Pob lwc' i’r holl ddysgwr sy'n sefyll arholiadau ar hyn o bryd.