BLOG

Cyhoeddwyd:

19.11.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Creu newid: esboniad o’r TGAU Astudiaethau Cymdeithasol newydd

Y Rheolwr Cymwysterau, Kate Russell, sy’n bwrw golwg dros y cymhwyster TGAU astudiaethau cymdeithasol newydd a fydd yn cael ei gynnig mewn ysgolion a cholegau o fis Medi 2026 ymlaen.

Mae dysgwyr heddiw yn byw trwy gyfnod o newid rhyfeddol, gyda chyfleoedd a heriau na welwyd gan unrhyw genhedlaeth flaenorol. Wrth iddynt lywio tirwedd gymdeithasol, ddiwylliannol, dechnolegol, wleidyddol ac economaidd sy'n newid yn gyflym, bydd TGAU Astudiaethau Cymdeithasol yn caniatáu i bobl ifanc allu datblygu gwell dealltwriaeth o'r byd, a datblygu dealltwriaeth o sut i ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus a chyfrifol yng Nghymru. 

Cyflawni nodau'r cwricwlwm

Mae Astudiaethau Cymdeithasol yn un o'r pum pwnc o fewn maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn y Cwricwlwm i Gymru

Mae'r cymhwyster TGAU Astudiaethau Cymdeithasol newydd sbon yn ymgorffori gweledigaeth y cwricwlwm ac yn cael ei ategu gan y pedwar diben sy'n anelu at gefnogi dysgwyr i ddod yn: 

  • ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Yn ganolog i ddylunio'r cymhwyster hwn mae sgiliau a chysyniadau penodol y pwnc fel yr amlinellir yn yr adran 'cynllunio eich cwricwlwm' o faes dysgu a phrofiad y dyniaethau.

Cyd-destun, cynefin a gweithredu ar y cyd

Mae Astudiaethau Cymdeithasol yn gymhwyster i ddysgwyr sy'n chwilfrydig am bobl, sut mae cymdeithas yn gweithio a'r byd o'u cwmpas. Bydd yn helpu dealltwriaeth dysgwyr o’n tirwedd gymdeithasol bresennol, tra hefyd yn eu paratoi ar gyfer newid cymdeithasol yn y dyfodol.  

Bydd dysgwyr yn gallu deall eu galluedd eu hunain ac ystyried sut i gyfranogi’n weithredol a chymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol. Byddant yn cael cyfle cyffrous i werthfawrogi natur gymhleth, luosogol ac amrywiol cymdeithas drwy ddeall hunaniaeth, hawliau a chyfrifoldebau, cydraddoldeb ac anghydraddoldeb, tra'n myfyrio ar ddylanwad llywodraethau yng Nghymru a thu hwnt. Bydd dysgwyr yn cael cyfle clir i ymwneud â gwleidyddiaeth ac i feddwl yn feirniadol. 

Bydd dysgwyr hefyd yn archwilio eu cynefin drwy ystyried gweithredoedd ac effeithiau gwneuthurwyr newid cymdeithasol o Gymru, gan gynnwys: 

  • Hanef Bhamjee, ymgyrchydd gwrth-apartheid
  • Alex Griffiths, amgylcheddwr
  • Eileen a Trefor Beasley, ymgyrchwyr dros y Gymraeg

Asesu di-arholiad yn y cymhwyster newydd

Ochr yn ochr â chymwysterau TGAU eraill y dyniaethau, bydd y cymhwyster astudiaethau cymdeithasol newydd yn cynnwys dau asesiad di-arholiad. Bydd yr asesiadau di-arholiad yn cyfrannu 40% o'r radd gyffredinol.

Mae unedau asesiad di-arholiad yn rhoi cyfle unigryw a gafaelgar i ddysgwyr ddefnyddio technegau i archwilio materion cymdeithasol yn y byd go iawn. Bydd dysgwyr yn defnyddio ystod o ddulliau ymchwil, yn asesu hygrededd amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth a safbwyntiau, ac yn cael eu grymuso i ddod i gasgliadau o ddata ansoddol a meintiol. Bydd gan ddysgwyr ddealltwriaeth o ddulliau ar gyfer cynnal dadansoddiad i effeithiolrwydd gweithredu cymdeithasol. 

Mae TGAU Astudiaethau Cymdeithasol yn defnyddio dull amlddisgyblaethol o archwilio'r dyniaethau a bydd yn darparu sylfaen eang ar gyfer symud ymlaen i ystod o gymwysterau ôl-16, gan gynnwys llywodraeth a gwleidyddiaeth, y gyfraith, seicoleg a chymdeithaseg. 

Cefnogi canolfannau trwy newid

Mae ystod eang o gefnogaeth ar gael i athrawon wrth iddynt baratoi i gyflwyno'r cymhwyster TGAU astudiaethau cymdeithasol newydd o fis Medi 2026 ymlaen. 

Mae CBAC wedi dechrau cyflwyno rhaglen o ddysgu proffesiynol ac adnoddau i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r cymhwyster hwn, gan gynnwys:

  • canllawiau i fanylebau
  • sesiynau briffio ar-lein byw ar y manylebau
  • digwyddiadau wyneb yn wyneb 'Paratoi i Addysgu'
  • canllawiau i asesiadau

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan CBAC.