NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

14.01.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Croesawu ein haelodau bwrdd newydd

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi croesawu dwy aelod newydd o’r bwrdd ar ddechrau’r flwyddyn hon.

Mae Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi penodi Liz Rosser ac Emmajane Milton i’n Bwrdd am gyfnod o dair blynedd, o 1 Ionawr 2025 tan 31 Rhagfyr 2027. Mae’r ddwy yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’r rôl, ac rydym yn edrych ymlaen at eu cyfraniadau a'u harweinyddiaeth.

Gallwch ddarganfod mwy amdanynt yma: Strwythur a Llywodraethu | Cymwysterau Cymru