Ctrl + Shift: diweddaru TGAU Technoleg Ddigidol
Mae Nathan Evans, Rheolwr Cymwysterau, yn trafod y cymhwyster TGAU newydd mewn technoleg ddigidol cyn iddo gael ei addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2026.
Mae’r cymhwyster TGAU Technoleg Ddigidol newydd yn adeiladu ar sylfaen y fersiwn a gyflwynwyd yn 2021. Gan fod y cymhwyster TGAU hwnnw wedi cael ei gyflwyno’n gymharol ddiweddar, mae eisoes yn cyd-fynd yn dda â'r disgwyliadau ar gyfer yr hyn y dylai cymhwyster yn y pwnc hwn ei gynnig. Er hyn, mae cyflwyno’r Cymwysterau Cenedlaethol wedi rhoi cyfle i ni ei wella ac i gynnig mwy i ddysgwyr ac i ganolfannau.
Yn yr erthygl yma, byddwn ni’n rhoi sylw i’r prif newidiadau gallwch chi ddisgwyl eu gweld pan fydd y cymhwyster ar gael ym mis Medi 2026, a sut mae'r cymhwyster newydd yn cyd-fynd yn well â’r Cwricwlwm i Gymru.
Asesiadau di-arholiad mwy hylaw
Bydd asesiadau di-arholiad yn rhan fawr o TGAU Technoleg Ddigidol, gan sicrhau bod y cymhwyster yn caniatáu i ddysgwyr ganolbwyntio ar ddatblygu ac arddangos sgiliau digidol.
Bydd tasgau’r asesiadau di-arholiad yn y cymhwyster TGAU newydd yn cael eu hasesu dros ddau gyfnod byrrach nag yn y cymhwyster cyfredol, gyda gostyngiad cyffredinol yn amser yr asesiadau di-arholiad o 30 awr. Bydd dysgwyr yn dal i allu datblygu ystod o gynhyrchion digidol yn yr asesiadau, a gwneud hynny drwy ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a thrwy ddefnyddio meddwl iterus. Fodd bynnag, bydd mwy o amser i ddysgu gan fod yr asesiadau’n fyrrach, ac yn bwysicach fyth, bydd y cymhwyster yn fwy hylaw i athrawon ac i ddysgwyr.
Mwy o hyblygrwydd o ran meddalwedd
Mae yna gyfoeth o dechnolegau meddalwedd digidol sy’n gallu datblygu a dylunio cynhyrchion digidol. Er mwyn cefnogi ysgolion i ddefnyddio meddalwedd sy’n bodloni anghenion eu dysgwyr, ac i gael y gorau o’r technolegau sydd eisoes ganddyn nhw, nid yw’r cymhwyster yn nodi bod angen defnyddio meddalwedd penodol. Mae hyn yn golygu y bydd gan ganolfannau fwy o hyblygrwydd, ac y gallan nhw ddewis y feddalwedd sydd fwyaf cyfarwydd a pherthnasol i’w dysgwyr, neu’r un sydd orau i’w cefnogi i symud ymlaen i waith neu addysg bellach.
Aros ar flaen y gad o ran technolegau datblygol
Un diweddariad allweddol yw mireinio cynnwys y pwnc er mwyn rhoi sylw i dechnolegau digidol newydd ac esblygol. Mae Uned 1 wedi cael ei diweddaru er mwyn gwella sut mae’r cymhwyster yn cyfleu pa mor gyflym mae'r byd digidol yn newid, ac i dynnu sylw dysgwyr at werth dod i ddeall y dyfeisiau, y gwasanaethau a'r syniadau sy'n siapio’r newid hwnnw.
Mae dysgwyr yn archwilio pynciau megis modelau deallusrwydd artiffisial, llwyfannau sy'n cael eu gyrru gan ddata a systemau cysylltiedig, nid yn unig fel cysyniadau, ond fel technolegau byd go iawn gyda dimensiynau cymdeithasol, economaidd a moesegol. Mae'r ychwanegiadau hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr feddwl yn feirniadol am arloesedd a'i rôl mewn cymdeithas.
Trwy ymgorffori'r cynnwys hwn, mae'r cymhwyster yn sicrhau mai’r dechnoleg ddigidol fel y mae heddiw sy’n cael ei haddysgu: technoleg sy’n ddeinamig, yn rhyng-gysylltiedig ac yn esblygu trwy’r adeg.
Cymorth i athrawon
Er mwyn helpu canolfannau i baratoi ar gyfer addysgu’r cymhwyster am y tro cyntaf, bydd CBAC yn darparu cyfres o adnoddau digidol dwyieithog a chyfleoedd dysgu proffesiynol. Bydd y rhain yn cefnogi’r broses o gyflwyno’r cymhwyster yn effeithiol gyda'r nod o helpu athrawon i deimlo'n hyderus wrth arwain dysgwyr drwy'r cymhwyster newydd cyffrous hwn – beth bynnag fo'u cefndir.
Gallwch chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyfforddiant a'r adnoddau sydd ar gael ar wefan CBAC.