NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

14.03.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cydraddoldeb, tegwch, a chynhwysiant mewn cymwysterau nad ydynt yn raddau a'r system yng Nghymru

Fe wnaeth Cymwysterau Cymru gomisiynu ymchwil i gydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant mewn cymwysterau nad ydynt yn raddau a’r system yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar farn rhanddeiliaid a rhieni.

Wnaethon nhw gomisiynu’r ymchwil gan Beaufort Research gan eu bod yn cydnabod arwyddocâd meithrin system gymwysterau deg a chyfiawn sy’n darparu cyfleoedd i bob dysgwr, waeth beth fo’u cefndir, eu gallu neu eu hamgylchiadau. 

Mae’n ffurfio rhan o’n hymrwymiad parhaus i ymgysylltu ar faterion sy’n ymwneud hefo hyder cyhoeddus mewn cymwysterau a’r system gymwysterau. Mae’r adroddiad yn archwilio pwnc penodol – barn ar gydraddoldeb, tegwch, a chynhwysiant (EEI). 

Dywedodd Tom Anderson, Pennaeth Ymchwil ac Ystadegau yn Cymwysterau Cymru: 

“Y prif amcanion ar gyfer y gwaith yma oedd archwilio barn rhanddeiliaid ar gydraddoldeb, tegwch, a chynhwysiant o fewn y system gymwysterau. Roedden ni hefyd eisiau deall yn well sut roedd rhanddeiliaid pwysig yn ystyried Cymwysterau Cymru mewn perthynas ag EEI er mwyn bwydo mewn i'n amcanion cydraddoldeb ar gyfer 2024-2028.” 

Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.