BLOG

Cyhoeddwyd:

26.01.26

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cyfathrebu'r newidiadau i Sgiliau Hanfodol Cymru

Yr Uwch Reolwr Cymwysterau, Oliver Stacey, sy’n manylu ar ein cynigion ar gyfer diwygio cymwysterau cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru.

Mae sgiliau cyfathrebu a llythrennedd yn hanfodol ar gyfer ymdopi yn y byd modern. 

Mae gallu cyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar, gwrando ac ymateb i amrywiaeth o safbwyntiau a dethol gwybodaeth o ystod o destunau ysgrifenedig yn gymwyseddau hanfodol ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith.  

Yn dilyn adolygiad manwl o Sgiliau Hanfodol Cymru, rydyn ni’n diwygio'r cymwysterau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn afaelgar yn ogystal â hydrin i ganolfannau eu cyflwyno ac i ddysgwyr eu cwblhau. Isod rydyn ni’n crynhoi ein newidiadau allweddol arfaethedig i gymwysterau cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru yn ogystal â'r rhesymeg y tu ôl iddyn nhw 

Cynnydd cliriach rhwng lefelau 

Er mwyn mynd i'r afael â chanfyddiadau ein hadolygiad sy’n crybwyll gorgyffwrdd a dyblygu cynnwys rhwng lefelau yn y cymwysterau presennol, rydyn ni’n cynnig adolygu ac ailstrwythuro'r cynnwys i: 

  • gynnwys datganiadau mwy eglur ynghylch y lefel ofynnol o hyfedredd mewn sillafu, atalnodi a gramadeg ar bob lefel o'r cymhwyster i helpu i wahaniaethu'n gliriach rhwng y lefelau 
  • grwpio datganiadau ar feysydd sgiliau cysylltiedig o fewn pob lefel o'r cymwysterau fel bod y gwahaniaethau mewn disgwyliadau o amgylch pob sgìl ar bob lefel yn gliriach i'w gwahaniaethu - mae hyn yn ei gwneud hi'n haws adnabod cynnydd wrth symud i fyny'r lefelau

Model asesu mwy hydrin 

Cawson ni adborth cryf yn ystod ein hadolygiad bod y model asesu ar lefelau 1 a 2 yn rhy hir a bod hyn yn effeithio ar hydrinedd y cymhwyster gan ei gwneud hi'n anodd i ganolfannau ei gyflwyno yn yr amser sydd ar gael. Er mwyn mynd i'r afael â'r canfyddiad hwn, rydyn ni wedi cynnig dull gwahanol o asesu sy'n lleihau'r amser asesu cyffredinol yn sylweddol.  

Rydyn ni’n cynnig dau asesiad o fewn y cymhwyster newydd. Bydd yr asesiad cyntaf mewn dwy ran (bydd rhan A yn asesu darllen a rhan B yn asesu ysgrifennu). Bydd y gydran ddarllen yn debyg i'r prawf cadarnhau cyfredol a bydd yn cael ei marcio'n awtomatig. Bydd y gydran ysgrifennu’n cael ei marcio'n allanol gan y corff dyfarnu gan ddefnyddio pobl i'w marcio. Bydd yr ail asesiad yn profi sgiliau siarad a gwrando gan ddefnyddio fformat tebyg i'r cymhwyster presennol.  

Mae asesu ysgrifennu drwy asesiad allanol yn cynnig y fantais o leihau'r amser asesu cyffredinol yn sylweddol am ei fod yn dileu'r angen am dasg hir dan reolaeth. Yn ogystal, mae'n lleihau llwyth gwaith i ganolfannau gan nad oes angen iddyn nhw farcio'r tasgau ysgrifennu mwyach. 

Ar lefel mynediad, dydyn ni ddim yn credu bod angen prawf. Yn hytrach, rydyn ni’n credu bod modd asesu'r cymhwyster yn fewnol, er enghraifft trwy bortffolio o dystiolaeth, neu gyfres o dasgau.  

Teitl newydd y cymhwyster 

Rydyn ni hefyd yn awgrymu newid teitl y cymhwyster o Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu i Sgiliau Hanfodol Llythrennedd. Byddai gan hyn sawl mantais:  

  • Mae ‘Llythrennedd’ yn adlewyrchu cynnwys y cymhwyster yn fwy cywir.  
    Mae'n helpu i nodi'n glir y gwahaniaeth rhwng y cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru presennol a'r un newydd. 
  • Mae newid teitl yn y pwnc hwn yn gyson â'r dull rydyn ni’n ei ddefnyddio gyda chymhwyso rhif a sgiliau digidol, lle rydyn ni hefyd yn awgrymu newidiadau i deitlau'r cymwysterau. 

Dweud Eich Dweud  

Mae'r ymgynghoriad ar gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru diwygiedig ar agor tan 5 Chwefror 2026. Gallwch chi ddarllen mwy am ein cynigion yn ein hadroddiad ymgynghori, a helpu i siapio dyfodol Sgiliau Hanfodol Cymru drwy gwblhau'r ymgynghoriad ar ein tudalen Dweud Eich Dweud