Cyflawni canlyniadau gweddol debyg mewn cymwysterau TGAU Ton 1
Mae'r haf hwn yn nodi carreg filltir bwysig yn y daith i ddiwygio'r cwricwlwm a chymwysterau. Am y tro cyntaf, bydd unedau o'r cymwysterau TGAU newydd mewn wyth o bynciau yn Nhon 1 yn cael eu dyfarnu. Mae Oliver Stacey, Uwch Reolwr Cymwysterau, yn egluro mai ffocws allweddol i'r rheoleiddiwr yw sicrhau hyder yn y cymwysterau newydd hyn.

Mae'r cymwysterau newydd hyn wedi cael eu creu ar y cyd â rhanddeiliaid i gysylltu â’r Cwricwlwm i Gymru a'i gefnogi. Maen nhw’n ffrwyth sawl blwyddyn o ddatblygu manwl a chydweithio.
Hybu hyder y cyhoedd
Fel rheoleiddiwr cymwysterau, un o'n prif amcanion yw hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru. Ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd, mae hon yn ymdrech ar y cyd â CBAC, y corff dyfarnu sy'n darparu ac yn dyfarnu'r cymwysterau hyn.
Rydyn ni’n cydnabod bod addysgu a pharatoi dysgwyr ar gyfer cymhwyster newydd yn cyflwyno heriau ychwanegol. Er bod deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael, nid oes unrhyw cyn-bapurau nac adroddiadau gan arholwyr i athrawon ymgynghori â nhw ar hyn o bryd. Mae hyn yn naturiol yn creu mwy o ansicrwydd ar gyfer asesiadau’r haf hwn, ac ar gyfer yr haf nesaf, cyn i gymwysterau llawn gael eu dyfarnu am y tro cyntaf.
Dros amser, wrth i ddeunyddiau asesu byw ac adnoddau ategol gronni, bydd yr ansicrwydd hwn yn lleihau. Ond rydyn ni’n ymwybodol iawn o'r sefyllfa unigryw y mae athrawon a dysgwyr ynddi ar hyn o bryd, a'r angen i amddiffyn dysgwyr yn ystod y cyfnod pontio hwn.
Canlyniadau gweddol debyg
Er mwyn cefnogi hyder y cyhoedd a thegwch yn ystod y newid hwn, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod canlyniadau yn y cymwysterau TGAU newydd yn weddol debyg i'r rhai yn y cymwysterau etifeddol presennol.
Ar lefel genedlaethol, mae hyn yn golygu y bydd canlyniadau cyffredinol yn cael eu diogelu wrth i gymwysterau TGAU newydd gael eu cyflwyno. Nid yw'n golygu y bydd canlyniadau mewn canolfannau unigol yr un fath ag yn y blynyddoedd blaenorol. Ar gyfer cymwysterau lle bu llawer o newid (er enghraifft i gynnwys, strwythur ac asesiad y cymhwyster) dau o'r ystyriaethau allweddol yw:
-
Pa ganlyniadau o'r cymwysterau etifeddol fydd y TGAU newydd yn weddol debyg iddynt?
-
Ydy'r garfan sy'n dilyn y cymhwyster newydd yn debyg i'r rhai a astudiodd y cymhwyster etifeddol o'r blaen, neu a oes gwahaniaethau mewn proffiliau dysgwyr?
Gallwch chi ddarllen mwy ein blog blaenorol am ganlyniadau tebyg.
Iaith a llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg
Ar gyfer Saesneg a Chymraeg, mae gwahaniaethau nodedig rhwng canlyniadau TGAU iaith a llenyddiaeth etifeddol, yn enwedig ar raddau A ac C. Yn Saesneg, mae canlyniadau gradd C mewn llenyddiaeth yn sylweddol uwch na mewn iaith, ac yn Gymraeg mae'r un patrwm yn bodoli, er bod y gwahaniaeth yn llai. Yn y ddau bwnc, mae mwy o ddysgwyr yn astudio iaith na llenyddiaeth.
|
|
Nifer |
Canran gronnol yr ymgeiswyr yn y radd |
||
|
Pwnc |
Canolfannau |
Ymgeiswyr |
A |
C |
|
Saesneg Iaith |
276 |
33,139 |
13.8 |
59.2 |
|
Llenyddiaeth Saesneg |
228 |
28,953 |
19.4 |
72.2 |
|
Mathemateg |
276 |
33,006 |
18.2 |
56.8 |
|
Mathemateg Rhifedd |
264 |
32,253 |
16.4 |
56.9 |
|
Cymraeg Iaith |
76 |
6,126 |
14.8 |
69.7 |
|
Llenyddiaeth Gymraeg |
58 |
4,307 |
23.5 |
77.5 |
Bydd defnyddio dull canlyniadau gweddol debyg mewn Saesneg a Chymraeg yn golygu y bydd canlyniadau yn y ddau gymhwyster wedi'u lleoli rhwng canlyniadau iaith a llenyddiaeth etifeddol.
Mathemateg a rhifedd
Mae'r cymhwyster mathemateg a rhifedd dwyradd newydd yn dod â mathemateg a rhifedd at ei gilydd mewn un cymhwyster.
Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr yn astudio TGAU mathemateg a TGAU rhifedd, ac mae canlyniadau'r ddau gymhwyster yn llawer mwy tebyg, gyda thuedd i ddysgwyr, ar gyfartaledd, wneud ychydig yn well mewn TGAU mathemateg.
Er mwyn adlewyrchu hyn, bydd dull gwahanol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mathemateg a rhifedd gan nad oes angen gosod y canlyniadau rhywle rhwng y cymwysterau etifeddol fel ar gyfer iaith a llenyddiaeth.
Sut bydd penderfyniadau dyfarnu yn cael eu llywio
Er mwyn cefnogi'r gwaith o ddyfarnu'r cymwysterau TGAU newydd, byddwn ni’n cyhoeddi cyfres o egwyddorion dyfarnu. Bydd rhain yn llywio dull CBAC o ddyfarnu ac yn rhoi set o ffactorau i'w hystyried. Mae'r rhain yn cynnwys agweddau megis sut maen nhw’n defnyddio tystiolaeth ansoddol fel barn arholwyr, a thystiolaeth feintiol fel gwybodaeth ystadegol pan fyddan nhw’n dyfarnu pob TGAU, yn ogystal â gofyn iddyn nhw esbonio sut maen nhw wedi blaenoriaethu a phwysoli gwahanol ffynonellau tystiolaeth.
Y camau nesaf
Rydyn ni’n gwybod y bydd gan yr unedau a ddyfernir yr haf hwn effaith fawr ar ganlyniadau cyffredinol y cymhwyster. Byddwn ni’n gweithio'n agos gyda CBAC yn ystod y dyfarniadau uned cyntaf hyn; gan roi sylw manwl i batrymau cofrestru, perfformiad dysgwyr ac integreiddio gwahanol ffynonellau tystiolaeth yn y broses ddyfarnu. Bydd hyn yn helpu llywio'r dull a ddefnyddir yr haf nesaf pan fydd y cymwysterau llawn yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf.