NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

15.05.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
RHANDDEILIAID
CANOLFANNAU

Cyfle i Ddweud Eich Dweud ar Arholiadau Haf 2024

Gyda dysgwyr wedi dechrau sefyll arholiadau ac asesiadau ledled Cymru, mae Cymwysterau Cymru wedi lansio arolwg i gasglu adborth

Mae Cymwysterau Cymru yn gwahodd dysgwyr, addysgwyr, rhieni, gofalwyr ac eraill sydd â diddordeb, i rannu eu barn am arholiadau TGAU, UG, Safon Uwch a Lefel 2/3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yr haf yma. 

Trwy wrando ar brofiadau dysgwyr drwy gydol y gyfres arholiadau, gall Cymwysterau Cymru nodi themâu allweddol i'w trafod gyda chyrff dyfarnu. Mae ymatebion yr arolwg hefyd yn rhoi cipolwg gwerthfawr i'r rheoleiddiwr ar farn a phrofiadau dysgwyr o'r papurau arholiad, y buasai yn bosib eu defnyddio i lywio gwaith monitro yn y dyfodol.

 Mae’n bosib cwblhau'r arolwg byr yn Gymraeg neu Saesneg, ac mae'n ymdrin â phynciau fel:

  • a oeddet yn teimlo bod y papur (au) arholiad yn ymdrin â'r pynciau a gafodd eu hastudio
  • lefel her y papur(au) arholiad (pa mor hawdd neu anodd oedd hi)
  • a oeddet ti’n temlo bod digon o amser i gwblhau'r cwestiynau
  • unrhyw sylwadau eraill

Gall ymatebwyr roi sylwadau ar unrhyw arholiad sy’n cael ei sefyll yn ystod cyfres yr haf. Dylai'r arolwg gymryd tua phum munud i'w gwblhau ac mae'r holl ymatebion yn gwbl ddienw.

Mae Cymwysterau Cymru wedi dylunio posteri, i staff canolfannau eu hargraffu a'u harddangos mewn ystafelloedd staff, hysbysfyrddau arholiadau neu ger y brif ystafell arholiadau.

Lawrlwythwch y posteri yma:

Poster A4

Poster A3

Bydd yr arolwg yn cau ddydd Llun 8 Gorffennaf, ychydig wythnosau ar ôl yr arholiadau terfynol.

Bydd Cymwysterau Cymru yn monitro ymatebion yr arolwg drwy gydol y gyfres, yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion yn ddiweddarach eleni, ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi, a defnyddio'r adborth i lywio cyfresi arholiadau yn y dyfodol.

Dweud eich dweud yma.