Ymgynghoriad i Gyrff Dyfarnu: sicrhau'r cynnig cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru
Mae Cymwysterau Cymru yn gofyn am farn gan gyrff dyfarnu ar ei dull rheoleiddio arfaethedig o sicrhau’r cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru, newydd i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae’n bwysig bod pob dysgwyr, ysgol a choleg yng Nghymru yn gallu dewis o'r ystod lawn o gymwysterau TGAU newydd a fwriedir i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. I’r perwyl hwn, mae Cymwysterau Cymru yn cynnig bod yn rhaid i unrhyw gorff dyfarnu sy’n ceisio cynnig y cymwysterau TGAU Cymeradwy, Gwneud-i-Gymru, gynnig yr ystod lawn o bynciau TGAU. Byddai angen i gyrff dyfarnu hefyd sicrhau bod y cymwysterau hynny ar gael drwy gydol eu cyfnod cymeradwyo.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg am 8 wythnos tan ddydd Mawrth 14 Mawrth 2023. Os ydych chi’n gorff dyfarnu cydnabyddedig sy’n darparu cymwysterau TGAU yng Nghymru, neu’n gorff dyfarnu sydd â diddordeb mewn darparu'r cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch ati i Ddweud Eich Dweud ar y cynigion.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, bydd angen i chi gofrestru ar blatfform ymgysylltu newydd Cymwysterau Cymru, Dweud Eich Dweud. Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru, gallwch ymateb i’r cynigion ar-lein drwy gwblhau’r arolwg hwn.