NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

06.06.24

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cyflwyno cymhwyster TGAU newydd yn Y Gwyddorau o 2026

Y prif gymhwyster gwyddoniaeth ar gyfer dysgwyr 14-16 oed - bellach yn cael ei gyflwyno i’w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026

Mae Cymwysterau Cenedlaethol yn cael eu cyflwyno mewn tri cham rhwng 2025 a 2027. Bydd y cymhwyster TGAU newydd yn Y Gwyddorau (Dwyradd) - y prif gymhwyster gwyddoniaeth ar gyfer dysgwyr 14-16 oed - bellach yn cael ei gyflwyno i’w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026, yn hytrach na mis Medi 2025 fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Caiff y fanyleb ei chyhoeddi ym mis Medi 2025, flwyddyn cyn yr addysgu cyntaf ym mis Medi 2026.

Mae dylunio unrhyw gymhwyster newydd yn gymhleth, ac yn ystod y broses ddatblygu rydyn ni wedi canfod bod angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod TGAU Y Gwyddorau yn diwallu anghenion dysgwyr yn y dyfodol yn llawn.  Byddwn yn defnyddio’r amser ychwanegol hwn i fireinio gwaith dylunio’r cymhwyster, gan gynnwys sicrhau bod yr asesu’n cael ei rannu’n well ar draws Blynyddoedd 10 ac 11.  Byddwn hefyd yn cael gwared ar yr uned ryngddisgyblaethol ar wahân, “Dod â’r Gwyddorau Ynghyd”, ac yn cyflwyno elfennau synoptig i bob un o’r asesiadau ym Mlwyddyn 11 sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr archwilio cysylltiadau rhwng testunau o fewn pob disgyblaeth wyddonol unigol.

Mae'r newid hwn i'r amserlen yn golygu y bydd y cymhwyster TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) a'r cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) newydd nawr yn dechrau cael eu haddysgu am y tro cyntaf ar yr un pryd, ym mis Medi 2026. Bydd hyn yn cefnogi penderfyniadau yn yr ysgol ynglŷn â pha gymhwyster gwyddoniaeth sydd fwyaf priodol ar gyfer dysgwyr unigol.

Bydd canolfannau’n parhau i allu cynnig yr ystod bresennol o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth i ddysgwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2025. Bydd y cymwysterau hyn wedyn yn cael eu disodli gan y TGAU newydd Y Gwyddorau (Dwyradd) a’r TGAU Gwyddoniaeth Integredig newydd (Gradd Unigol) ar gyfer dysgwyr sy’n dechrau eu cyrsiau TGAU ym mis Medi 2026.

Dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:

"Rydyn ni’n cydnabod bod aildrefnu'r amserlen ar gyfer TGAU newydd Y Gwyddorau yn annisgwyl ond mae datblygu unrhyw gymhwyster newydd yn broses gymhleth, gyda llawer o ofynion gwahanol. Yn ystod y broses ddatblygu, rydyn wedi cydnabod bod angen cymryd peth amser ychwanegol i sicrhau bod y cymhwyster TGAU newydd Y Gwyddorau (Dwyradd) yn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru yn llawn. Rydyn hefyd wedi parhau i ymgysylltu'n uniongyrchol â'n rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y Cymdeithasau Dysgedig ar gyfer y gwyddorau.

Byddwn yn defnyddio'r amser ychwanegol hwn i fireinio'r cymhwyster ymhellach, gan gynnwys edrych ar sut i rannu’r asesu’n well ar draws Blynyddoedd 10 ac 11, yn hytrach na chael y rhan fwyaf o’r asesiadau ym Mlwyddyn 11 yn unig. Ein prif flaenoriaeth yma yw sicrhau bod y cymhwyster TGAU newydd Y Gwyddorau o ansawdd uchel a’i fod yn rhoi profiad dysgu gafaelgar a heriol i ddysgwyr."
 
Dywedodd Trystan Edwards, Pennaeth, Ysgol Garth Olwg, Pentre'r Eglwys:

"Fel Pennaeth, rwy'n cefnogi penderfyniad Cymwysterau Cymru i symud cyflwyno’r cymhwyster TGAU newydd yn Y Gwyddorau (Dwyradd) o 2025 i 2026. Fy marn i yw, gan ei fod wedi dod i'r amlwg bod angen amser ychwanegol i fireinio'r cymhwyster newydd hwn, yna mae'n synhwyrol cymryd yr amser hwnnw.
 
Y prif ysgogydd yma yw sicrhau yn y pen draw ein bod â chymwysterau sy'n diwallu anghenion dysgwyr, a'r rhai a fydd yn dysgu'r pynciau hyn yn yr ystafell ddosbarth. Mae'n ddoeth cymryd yr amser nawr i sicrhau na fydd angen adolygu'r cymwysterau hyn eto yn y dyfodol agos."

Dywedodd Chris Parry, Pennaeth, Ysgol Lewis, Pengam:

"Rwy'n gwybod faint o waith sydd wedi’i wneud wrth ddylunio’r cymhwyster gwyddoniaeth newydd yma eisoes. Mae wedi dod yn amlwg i Cymwysterau Cymru mai'r ffordd orau o weithredu yw cymryd mwy o amser i weithio ar ddatblygu'r cymhwyster newydd.  

Rwy'n credu bod adolygu'r amserlen weithredu nawr er mwyn canolbwyntio fwyfwy ar y manylion - gan edrych yn benodol ar ffyrdd o rannu asesiadau ar draws y ddwy flynedd TGAU, yn hytrach na bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n disgyn ym Mlwyddyn 11 - yn rhoi lles dysgwyr wrth wraidd y cynlluniau hyn. Mae'n gwneud synnwyr i wneud y newid hwn o ran amseru nawr fel bod gennym y cymhwyster gorau posibl i'n pobl ifanc yn y pen draw." 

Dywedodd Marianne Cutler, Cyfarwyddwr Polisi ac Arloesi Cwricwlwm, Cymdeithas Addysg Gwyddoniaeth, yr ASE: 

“Rydym yn croesawu'r penderfyniad gan Cymwysterau Cymru i gyflwyno TGAU newydd Y Gwyddorau (Dwyradd) o fis Medi 2026, gyda'r disgwyl y bydd y mwyafrif helaeth o ddysgwyr yn astudio hyn. Mae hyn yn cefnogi ein safbwynt hir-sefydlog bod un llwybr ar lefel TGAU, sy'n cyfuno nodweddion gorau astudiaeth wyddonol gyfun (Dwyradd) ac ar wahân (triphlyg), yn galluogi mynediad teg i ddysgwyr ac yn cefnogi gwell lleoliad athrawon gwyddoniaeth arbenigol. 

Rydym yn gwerthfawrogi gweithio'n agos gyda Cymwysterau Cymru wrth lunio'r meini prawf ar gyfer TGAU newydd Y Gwyddorau, ac edrychwn ymlaen at gefnogi CBAC i ddatblygu'r fanyleb dros y misoedd nesaf. Dyma gyfle da i TGAU Y Gwyddorau adlewyrchu gwyddoniaeth gyfoes ac arloesedd, ac ymgysylltu â phobl ifanc, waeth beth fo'u cefndir.” 

Dywedodd Lauren McLeod, Pennaeth Polisi Addysg y Gymdeithas Frenhinol Bioleg: 

"Bydd gohirio TGAU Y Gwyddorau yn cefnogi datblygiad pellach i sicrhau bod y cynnwys, camau ac asesu'r TGAU newydd yn briodol i ddysgwyr. Mae’r RSB yn hyderus mai TGAU Y Gwyddorau yw'r llwybr gorau i baratoi pob dysgwr yng Nghymru ar gyfer astudio, bywyd a gwaith beth bynnag yw pen eu taith ôl-16." 

I gael rhagor o wybodaeth am y cymwysterau newydd, ewch i'n hwb Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 - Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 | dweudeichdweud.cymwysterau.cymru