NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

03.11.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
RHANDDEILIAID
CANOLFANNAU

Cyfres arholiadau mis Tachwedd yn dechrau

Dyma’r gyfres gyntaf o arholiadau TGAU i ddychwelyd i drefniadau asesu cyn y pandemig yng Nghymru.

Dros y pythefnos nesaf, bydd rhai dysgwyr yn cael eu harholi mewn pedwar pwnc TGAU – Saesneg Iaith, Mathemateg – Rhifedd, Mathemateg a Chymraeg Iaith – wrth i gyfres arholiadau Tachwedd 2023 fynd rhagddi. Dyma’r gyfres gyntaf o arholiadau TGAU i ddychwelyd i drefniadau asesu cyn y pandemig yng Nghymru.

Mae dychwelyd i’r trefniadau arferol yn rhan o'r daith arfaethedig a gaiff ei goruchwylio gan Cymwysterau Cymru ar ôl i ddulliau amgen gael eu rhoi ar waith yn ystod y pandemig. Bydd camau olaf y daith honno'n cael eu cwblhau yr haf nesaf pan fydd dysgwyr yn sefyll yr ystod lawn o gymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau.

Mae hyn yn golygu nad yw'r corff dyfarnu, CBAC, yn darparu unrhyw wybodaeth ymlaen llaw i ddysgwyr a chanolfannau, fel y digwyddodd y llynedd. Hefyd, ni fydd polisi graddio hanner ffordd yn fras fel yr oedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd Cymwysterau Cymru’n monitro sut y caiff ffiniau graddau eu pennu gan CBAC ar gyfer yr holl arholiadau a gaiff eu sefyll yn y gyfres hon, gan sicrhau bod y safonau'n briodol.

“Roedd y dulliau graddio a oedd yn fras hanner ffordd dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn darparu mecanwaith ar gyfer ailsefydlu safonau dros amser. Mae hynny, i bob pwrpas, yn digwydd nawr," meddai Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru.

“Mae dychwelyd i’r trefniadau arferol yn ein helpu i ddiogelu gwerth hirdymor graddau dysgwyr a chynnal hyder yn ein system gymwysterau. Mae ein hymagwedd at flwyddyn academaidd 2023/24 yn cyd-fynd â dulliau gweithredu ar draws gweddill y DU, sy'n bwysig er mwyn sicrhau bod cymwysterau yn dal yr un gwerth â'r rhai a gymerir mewn rhannau eraill o'r DU.

"Ar ran pawb yn Cymwysterau Cymru, hoffwn ddymuno'r gorau i'r holl ddysgwyr sy'n cymryd rhan yn y gyfres arholiadau ym mis Tachwedd.”