Adnodd rhyngweithiol newydd ar gyfer dysgwyr Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig y dyfodol ar gael
Adnodd gwybodaeth rhyngweithiol newydd i ddysgwyr bellach ar gael
Ym mis Medi 2021, cyflwynwyd cymhwyster newydd City & Guilds Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2).
Y cymhwyster yw'r prif bwynt mynediad newydd i ddysgwyr sy'n dechrau ar eu taith ddysgu yn y sector cyffrous hwn. Mae hwn yn gymhwyster Gwneud-i-Gymru, gyda chynnwys pwnc cyfoes a model asesu symlach.
Pan wnaethom gynnal ein hadolygiad cyflym o'r cymwysterau lefel 2 newydd yn y sector hwn, gwelsom y gallai dysgwyr elwa o ystod ehangach o ddeunydd sy'n cefnogi eu dealltwriaeth o strwythur y cymhwyster a'r daith ddysgu gyffredinol. Fe wnaethom ymrwymo i greu'r deunydd hwn.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r PDF rhyngweithiol hwn, a fydd yn caniatáu i ddysgwyr archwilio'r unedau sy'n ymddangos yn y cymhwyster, yr asesiadau y byddant yn eu cwblhau a'r camau nesaf y gallant eu cymryd yn eu taith ddysgu.
Mae rhagor o wybodaeth am yr ystod lawn o gymwysterau newydd a gyflwynwyd gan City & Guilds ac EAL, gan gynnwys deunydd ar gyfer darparwyr dysgu a chyflogwyr, ar gael ar wefan Sgiliau i Gymru.