NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

29.01.26

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Cyhoeddi Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer TGAU Saesneg Iaith (Ôl-16)

Heddiw rydyn ni wedi cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo ar gyfer TGAU Saesneg Iaith (Ôl-16)

Ym mis Tachwedd cyhoeddwyd ein cynlluniau i gyflwyno cymwysterau TGAU newydd mewn Saesneg Iaith a Chymraeg Iaith ar gyfer dysgwyr ôl-16 yn benodol 

Bydd y cymwysterau newydd hyn yn rhan o ddewislen hyblyg o ddarpariaeth a fydd ar gael i ddysgwyr ôl-16 o fis Medi 2027.  

Wrth i CBAC ddechrau ar ei waith i ddylunio a datblygu'r cymwysterau i fodloni ein gofynion, byddwn ni’n gweithio ar y cyd tuag at y nod o gymeradwyo'r cymwysterau erbyn hydref 2026, yn barod i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027. 

Ar hyn o bryd rydyn ni’n datblygu’r gofynion dylunio a fydd yn ffurfio’r Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer TGAU Cymraeg Iaith (Ôl-16). Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law. 

Ddarllenwch am y cefndir tu ôl i'n penderfyniad