BLOG

Cyhoeddwyd:

10.07.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Cymhwyster TGAU Cerddoriaeth newydd yn taro tant

Mae'r Rheolwr Cymwysterau, Sarah Watson, yn crynhoi'r TGAU newydd mewn cerddoriaeth, gan esbonio'r newidiadau allweddol y gall athrawon a dysgwyr ddisgwyl eu gweld yn y fanyleb newydd.

Sarah Watson, Rheolwr Cymwysterau
Sarah Watson, Rheolwr Cymwysterau

Ym mis Medi 2025, mae'r cymhwyster TGAU Cerddoriaeth newydd, sydd wedi'i ddylunio i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, yn sicr o daro tant gyda dysgwyr ledled Cymru. 

Fe fuon ni’n gweithio gydag athrawon i ddeall sut y gellid dylunio'r TGAU newydd i gefnogi'r addysgu a'r dysgu ym maes dysgu a phrofiad y celfyddydau mynegiannol. Dywedon nhw wrthym pa mor hanfodol yw rhoi rhyddid i ddysgwyr archwilio’r gerddoriaeth maen nhw'n teimlo’n angerddol amdano, ac i greu cyfleoedd i brofi ystod fwy amrywiol o gerddoriaeth trwy gynnwys sy'n ysbrydoledig ac yn gynhwysol i bob dysgwr. 

Beth sy'n newid yn y cymhwyster TGAU Cerddoriaeth?


Rhyddid i ddewis gweithiau gosod sy'n adlewyrchu cymunedau ysgolion unigol

O fis Medi 2025 ymlaen, bydd ysgolion yn cael mwy o ryddid i ddewis gweithiau gosod sy'n apelio at eu dysgwyr wrth iddyn nhw addysgu dysgwyr i werthfawrogi a gwerthuso cerddoriaeth. Bydd cymhwyster TGAU Cerddoriaeth newydd CBAC yn dathlu cerddoriaeth a grëwyd gan artistiaid Cymreig, gan gynnwys caneuon a ysgrifennwyd yn y Gymraeg, ochr yn ochr â cherddoriaeth o gyd-destunau diwylliannol a hanesyddol eraill. Mae hyn yn adlewyrchu amrywiaeth cymunedau ysgolion a'r amlddiwylliannaeth gyfoethog sy'n cael ei ddathlu drwy gerddoriaeth yng Nghymru heddiw yn well. 

Mwy o ffocws ar asesu di-arholiad

Rydyn ni wedi cynyddu'r ffocws ar dasgau di-arholiad sy'n asesu sgiliau ymarferol perfformio a chyfansoddi, ac wedi cael gwared ar yr angen i berfformio mewn grwpiau er mwyn gwneud asesiadau'n fwy hygyrch i gerddorion sy'n defnyddio technoleg ddigidol. 

Bydd dysgwyr yn gallu datblygu sgiliau ar gyfer myfyrio a hunanwerthuso trwy log myfyriol heb ei ragnodi yng nghyd-destun creu cyfansoddiad. Ni fydd angen ysgrifennu am y darn perfformio. 

Asesiad digidol yn unig

Bydd yr arholiad allanol newydd ar y sgrin, gan arwain at asesiad mwy gafaelgar a chynhwysol. Bydd yr arholiad ar y sgrin hefyd yn gwella dilysrwydd yr asesiad, gan sicrhau ein bod yn asesu'r pethau cywir yn y modd cywir. 

Bydd dysgwyr yn gallu ailchwarae a gwrando yn ôl fel sydd ei angen, gan gynnig ffordd ddilys o ymgysylltu â gweithiau a helpu i wneud y sefyllfa’n deg rhwng cerddorion llai profiadol a'r rhai sydd wedi bod yn datblygu eu clust gerddorol am gyfnod hirach.  

Cymorth i athrawon

Er mwyn helpu athrawon i baratoi ar gyfer y newidiadau, mae CBAC wedi rhyddhau cyfres o adnoddau digidol dwyieithog ar gyfer y cymhwyster TGAU Cerddoriaeth newydd. 

Mae cyfleoedd dysgu proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar-lein wedi'u cynnig i gefnogi'r broses o gyflwyno’r fanyleb newydd yn effeithiol. Gallwch chi weld yr wybodaeth ddiweddaraf am fanyleb TGAU Cerddoriaeth yma.