Cymwysterau Cymru’n cyhoeddi Cynllun Blaenoriaethau Strategol
Bydd Cymwysterau Cymru, sy’n rheoleiddio pob cymhwyster yng Nghymru ar wahân i raddau, yn cyhoeddi ei Gynllun Blaenoriaethau Strategol cyntaf sy’n amlinellu gweledigaeth y sefydliad ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Mae’r Cynllun, sy’n cwmpasu’r cyfnod 2022 i 2027, wedi’i ysbrydoli gan awydd i sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn elwa ar system asesu sydd ymhlith y mwyaf arloesol a’r mwyaf modern yn y byd, gan wneud y gorau o ystod eang o dechnegau asesu a meithrin hyblygrwydd o ran sut, a phryd, y bydd dysgwyr yn cael eu hasesu.
Gwnaeth Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, lansio’r Cynllun Blaenoriaethau Strategol heddiw yn Fforwm Cyrff Dyfarnu 2022, a fynychwyd gan gynrychiolwyr y 91 o gyrff dyfarnu gwahanol a gaiff eu cydnabod gan Cymwysterau Cymru yn bresennol.
Mae’r Cynllun, sy’n adeiladu ar strategaeth gorfforaethol y sefydliad a oedd yn rhedeg o 2018 i 2022, yn amlinellu sut, dros y pum mlynedd nesaf, y bydd Cymwysterau Cymru yn:
- cwblhau ei raglen o adolygiadau sector a dechrau gwerthuso manteision ac effaith ein diwygiadau;
- gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, cyrff dyfarnu ac eraill i sicrhau a chryfhau ystod gynaliadwy o gymwysterau cadarn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid ôl-16;
- parhau â’i waith o adolygu cymwysterau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod perthynas glir rhwng cymwysterau 14-16 a dilyniant i addysg uwch;
- cwblhau ei waith o adolygu a diwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru, gan sicrhau bod dull cydgysylltiedig a chadarn o asesu llythrennedd, rhifedd a sgiliau perthnasol eraill i ddiwallu anghenion dysgwyr;
- gweithio gyda chyrff dyfarnu i gynyddu’r ystod o gymwysterau sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, fel bod nifer y dysgwyr sy’n gallu cael mynediad at gymwysterau yn y naill iaith neu’r llall yn cynyddu’n sylweddol;
- hyrwyddo dulliau modern, cadarn ac arloesol o asesu.
“Mae saith mlynedd ers sefydlu Cymwysterau Cymru ac mae llawer iawn wedi newid yn y cyfnod hwnnw,” meddai Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru.
“Rydyn ni wedi cryfhau ein safle yn y sector addysg yng Nghymru a thu hwnt. Ochr yn ochr â phartneriaid a rhanddeiliaid, rydyn ni’n parhau i ymateb i rai o’r heriau mwyaf erioed y mae’r system gymwysterau wedi’u hwynebu. Rydyn ni wedi dysgu llawer o’n gweithgareddau rheoleiddio a diwygio eang. Dyma'r amser i bwyso a mesur ac edrych tua'r dyfodol.
Mae'r Cynllun hwn, sydd wedi'i datblygu gyda chefnogaeth rhanddeiliaid allweddol, yn cyflwyno'r weledigaeth hir-dymor ar gyfer sut y bydd ein gwaith yn esblygu gyda’n partneriaid. Mae’n amlinellu sut y byddwn ni’n parhau i sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn gallu dewis o blith cymwysterau y mae modd ymddiried ynddyn nhw, sy’n cael eu gwerthfawrogi ac sy’n gludadwy yn fyd-eang, sy’n berthnasol, yn deg, yn hyblyg ac yn ddwyieithog.
"Mae ein system addysg yn ganolog i ddyfodol ein cenedl. Mae'n hanfodol creu Cymru lewyrchus gyda rhagor o gydraddoldeb o ran cyfle, iaith sy'n ffynnu a diwylliant bywiog. Mae ein system gymwysterau yn hanfodol i'r ffyniant hwnnw, a dyna pam mae'r Cynllun Blaenoriaethau Strategol hwn mor bwysig."