Cymwysterau Cymru yn cadarnhau dull graddio cymwysterau 2023
Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau'r dull graddio a fydd yn ei le ar gyfer cyfres arholiadau haf 2023.
Y bwriad yw i ganlyniadau eleni fod yn fras hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a 2022.
Mae’r dull hwn yn ystyried yr aflonyddwch a brofwyd gan ddysgwyr yn ystod y pandemig a’r ffaith bod cymwysterau UG a rhai unedau TGAU wedi’u dyfarnu eleni – gan ddefnyddio dull graddio gwahanol – a bydd y rhain yn cael effaith ar raddio’r haf nesaf.
Mae'n nodi'r cam nesaf ar daith system gymwysterau Cymru yn ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig, tra hefyd yn cynnal cymorth i ddysgwyr, ysgolion a cholegau gyda gwybodaeth ymlaen llaw a dull cefnogol o raddio.
Bwriad gwybodaeth ymlaen llaw yw cefnogi dysgwyr trwy roi syniad o'r testunau, themâu, testunau neu gynnwys arall y gallan nhw ei ddisgwyl yn eu harholiadau. Y brif nod yw helpu dysgwyr i ganolbwyntio eu gwaith adolygu i gefnogi eu paratoadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau.
Mae Cymwysterau Cymru yn credu mai dyma'r dull tecaf i ddysgwyr eleni. Mae’r llwybr presennol yn golygu y bydd safonau cyn y pandemig yn dychwelyd yn 2024.
Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru:
“Ar ôl dwy flynedd heriol i'r system addysg, mae ymdrech a chefnogaeth pawb i ddysgwyr yn golygu ein bod yn symud yn ôl tuag at ddulliau gweithredu cyn y pandemig.
Wrth inni barhau ar y siwrnai honno, bydd cymorth yn parhau yn 2023 gan ein bod yn gwybod bod y pandemig wedi cael effaith hirdymor ar ddysgwyr.
Mae’r rhan fwyaf o gymwysterau yn cael eu cyflwyno dros ddwy flynedd, sy'n golygu bod rhai dysgwyr eisoes wedi profi aflonyddwch wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cymwysterau a fydd yn cael eu cwblhau eleni.
Rydyn ni’n parhau i weithio'n agos gyda chyrff dyfarnu, rheoleiddwyr eraill yn y DU, sefydliadau addysg uwch a rhanddeiliaid eraill i wneud yn siŵr nad yw dysgwyr Cymru o dan anfantais.
Ein blaenoriaeth o hyd yw bod y graddau y mae dysgwyr yn eu hennill yn cefnogi eu dilyniant i gam nesaf eu dysgu neu gyflogaeth.”