Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi canllawiau newydd ar Gymwysterau Cenedlaethol 14-16
Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi canllaw cynhwysfawr i gefnogi canolfannau yng Nghymru wrth drosglwyddo i'r Cymwysterau Cenedlaethol newydd.
Mae'r canllaw wedi'i gynllunio i helpu gweithwyr addysg proffesiynol ddeall y newidiadau i'r ddarpariaeth cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed o fis Medi 2025 a helpu canolfannau sydd wrthi’n paratoi yn barhaus.
Mae hefyd yn cynnwys pecyn cymorth i helpu canolfannau i roi gwybod am y cymwysterau newydd i ddysgwyr, a'u rhieni neu ofalwyr, llywodraethwyr a rhanddeiliaid allweddol lleol eraill.
Bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru wrth i wybodaeth newydd ddod ar gael, a bydd Cymwysterau Cymru yn rhoi gwybod i gydweithwyr ym myd addysg am y diweddariadau hyn drwy’r cylchlythyr misol.
Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru: “Rydyn ni’n gwybod pa mor heriol yw’r cyfnod hwn i benaethiaid, arweinwyr, athrawon a staff cymorth sy’n gweithio’n ddiflino i roi’r seilwaith ar waith a gwneud y paratoadau sydd eu hangen i gyflwyno’r cymwysterau newydd hyn.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y canllaw hwn yn cefnogi addysgwyr gyda’u paratoadau ar gyfer y Cymwysterau Cenedlaethol drwy gasglu ynghyd llawer o wybodaeth sydd wedi’i rhannu ar wahanol gamau yn ystod y cyfnod cyffrous hwn o ddiwygio cymwysterau. Mae hefyd yn cynnwys manylion newydd a fydd, gobeithio, yn meithrin dealltwriaeth athrawon o’r cymwysterau newydd a’r gwaith o baratoi ar eu cyfer.
“Rydyn ni bellach lai na blwyddyn oddi wrth addysgu’r don gyntaf o gymwysterau TGAU mewn ysgolion a cholegau, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’n cydweithrediad â chanolfannau, CBAC a Llywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn y foment hollbwysig hon ar ein taith i ddiwygio cymwysterau.”
Mae'r canllaw yn esbonio sut mae'r Cymwysterau Cenedlaethol yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a hawl i ddysgu Llywodraeth Cymru i ddysgwyr 14 i 16 oed. Mae hefyd yn nodi cyfleoedd i ddysgwyr ymwneud â meysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm, themâu trawsbynciol, sgiliau trawsgwricwlaidd a sgiliau cyfannol.
Mae'r manylion hefyd yn cynnwys:
- pa gymwysterau fydd ar gael ar raglenni addysg a ariennir yn gyhoeddus, a phryd
- pynciau a/neu unedau sydd ar gael ar gyfer pob math o gymhwyster
- strwythurau asesu, gan gynnwys gwybodaeth am asesiadau digidol a di-arholiad
- lefelau, oriau dysgu dan arweiniad a strwythurau graddio
- dolenni i feini prawf a manylebau cymeradwyo perthnasol, i gyd mewn un lle